EsAi a ddywedodd:CORRACH a ddywedodd:dwi wedi llwyddo i gael tocynnau tren o Aberystwyth at y 9fed a'r 12fed- £61.50 yno ac yn ol sy'n ddigon rhesymol. Mae'n cymryd tua 7 awr i leia, ond ti'n gallu yfed ar y tren so mae'n iawn! Mae ffrind yn mynd o Fangor, ac mae'r pris digon tebyg.
Be di'r sicret corrach? dwi'n methu ffendio dim byd dan gan punt. (Bangor). Drwy be nesdi fwcio nw? ar y web site? dio'n well os ti'n ffonio? ne ma un ne ddau yn deud tha fi na'r best bet ydi mynd i travel agency (sydd ddim yn gneud lot o sens)
Oddani'n meddwl o gwmpas y £50mark, (ar teit byjet) llu mai'n edrach yn debyg bo ni'n dreifio hi, a dwi'm yn edrach mlaen at dydd sul!
Bwcio ar wefan Arrive nesh i, cael 2 single (£38 yno bora gwenar a £23 yn ol bora llun). Nes i ffindio bo hynna lot rhatach na un tocyn return. Pan o'n i'n sbio ar y wefan arriva yn y bora, mi oedd na brisia rhad, ond erbyn y nos, dim ond tocynnau drud oedd ar gael - dim byd i neud efo bod nhw wedi gwerthu, jyst arriva yn trio gneud pres. Mynd ar y wefan yn bora di'r boi.
Tria hi, swn i'm yn licio dreifio nol dydd llun, heb son am ddydd sul.