Tudalen 1 o 1

Ffeirio Ty/Home Exchange - da neu peidio?

PostioPostiwyd: Sul 07 Ion 2007 11:04 am
gan jammyjames60
Bues i'r sinema cwpl o ddyddia' yn ôl yn Llandudno i weld The Holiday, sef ffilm am ddwy dynas digalonus efo problema' cariad, yn ffeirio'u tai yng ngwledydd eu hunain, lle maent yn cwrdd hogia' lleol a disgyn mewn i gariad.

Ond, y peth mae gen i ddiddordeb mewn ynddo ydi'r home exchange 'ma. Dyma sut mae'n gweithio: 'da chi'n rhoi'ch ty neu'ch gwyliau ar wefan a dewis gwlad sa chi'n hoffi ymweld. Wedyn, 'da chi'n postio llwyth o ymholiadau ar ba wythnos neu mis sa chi isio ffeirio.

Mae'r teulu reit bositif am hwn, ond mae gen i rhywfaint o amheuaeth drosto. A ydi o'n wirioneddol yn gweithio?

Os unrhyw profiadau ar y maes? :?

PostioPostiwyd: Sul 07 Ion 2007 3:44 pm
gan S.W.
Wedi neud o yn 1997 pan es i a fy nheulu i aros yn nhy teulu yn St Paul, Minnesota tra roedden nhw'n aros yn ein ty ni. Mi weithiodd o allan yn dda iawn i ni beth bynnag. Naethom ni'm ei wneud o trwy'r we na'm byd. Mi wnaeth athrawes o ysgol yn St Paul gysylltu a ysgol fy nhad i son bod teulu ar draws i ffordd iddi yn awyddus i wneud 'house swap' hefo rhywun o Ogledd Cymru.