Patagonia

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Patagonia

Postiogan Wya » Maw 09 Ion 2007 10:16 am

Dwi off i Batagonia am 3 wsos yn mis Chwefror. Oes na rywun arall am fod yna r'un pryd, neu yn gwybod am gysylltiada allan yno?
Wya
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 07 Gor 2005 2:06 pm
Lleoliad: Rownd y byd

Postiogan Wilfred » Maw 09 Ion 2007 10:18 am

I ba ran o Batagonia ti'n mynd?
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Wya » Maw 09 Ion 2007 10:23 am

Dyffryn Chubut. Croesi o Chile dros yr Andes i Esquel, a wedyn gweithio'n ffordd yn ara deg i Borth Madryn.
Tybad?
Wya
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 07 Gor 2005 2:06 pm
Lleoliad: Rownd y byd

Postiogan ID » Iau 18 Ion 2007 1:27 am

Wya a ddywedodd:Dyffryn Chubut. Croesi o Chile dros yr Andes i Esquel, a wedyn gweithio'n ffordd yn ara deg i Borth Madryn.


Mae cwpl o lefydd ar bwys Esquel lle ti'n gallu aros gyda Archentwyr sy'n siarad Cymraeg:

Hostel Casa Verde. Un o'r hostels mwya lyfli wy byth 'di aros ynddi- fel bwthyn pren anferth. Aeth Bibiana ar y cwrs WLPAN, wedyn i Lanbed i astudio Cymraeg.
http://casaverdehostel.com.ar/ (dyw'r wefan ddim yng Nghymraeg)

La Chacra. Mae hwn bach yn ddrutach gan taw B&B neis yw e, ond mae Rini yn lyfli. Brecwast anferth.
info@lachacrapatagonia.com

Mae athrawon Cymraeg yn Esquel, Trevelin, Gaiman a Threlew. Sai'n siwr os byddwn nhw yn dysgu yn mis Chwefror, falle fod y gwyliau haf dal yn mynd. Ta beth, mae nhw wedi hen arfer a chael Cymry random yn troi lan.

Fi'n genfigennus iawn, mae Trevelin yn arbennig yn hyfryd. Ti 'di chwilio'r we am amseroedd y steddfodau mas 'na? Mae syniad 'da fi fod steddfod ieuenctid yn mis chwefror. Os fod e'n bosibl, cer i steddfod- dwy ti ddim yn clywed lot o Gymraeg ar y strydoedd, ond i rhywbeth felna mae pawb yn dod at ei gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
ID
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 07 Meh 2006 9:10 am
Lleoliad: NEATH NEATH NEATH NEATH NEATH a.y.b.

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Gwe 19 Ion 2007 1:47 pm

Mae fy chwaer yn treulio chwe mis yn teithio o gwmpas De America ar ei mis mêl gyda'i gwr (Sais :? )
Mae hi newydd ychwanegu cofnod (Saesneg) at eu blog am eu hymweliad â Phatagonia.
http://www.travelblog.org/South-America/Argentina/Chubut/Gaiman/blog-120442.html

Efallai bydd cofnodion eraill y blog o ddiddordeb i unrhyw un sy'n ystyried taith tebyg i Dde America.
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Rhys » Gwe 19 Ion 2007 2:05 pm

Dyma edefyn arall am Batagonai:
viewtopic.php?t=3699&highlight=patagonia
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Wilfred » Llun 22 Ion 2007 12:45 pm

A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan SerenSiwenna » Llun 22 Ion 2007 2:01 pm

Lwcus iawn, dyna un o'm mreuddwydion i yw cael trafeilio Patagonia. Mae gwety tywi yn edrych yn dda

http://usuarios.advance.com.ar/gwestywi/

Fues i yn trafod chydig o pethau rhai blynyddoedd ynol oherwydd bo fi rili eisiau mynd i batagonia - roedden nhw yn cyfeillgar iawn.

Wyt ti'n mynd ene am wyliau neu i weithio?

Wyt ti am gwneud blog am y peth? Os nad, dyro rhai pethau ar fama pan ddoi di nol..

Arghhh! dwi mor llawn cenfigen dwi bron a bostio! :lol: pob hwyl i ti :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron