Tudalen 1 o 1

Fuoch Chi Rioed yn Gambia?

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 12:51 pm
gan Jeni Wine
Dwi a'r gwr anghyfreithlon yn pasa mynd i Gambia ddiwadd Chwefror. Unrhyw un wedi bod yno?

Da ni ddim isio aros mewn resort cachlyd ac mi fasa'n well gynnon ni aros mewn hyts bach ar draeth gwag neu ar lannau'r afon Gambia lle fedrwn ni weld mwnciod a chrocodeils a phetha felly.

Mi fasan ni'n gwerthfawrogi unnrhyw gyngor.

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 2:55 pm
gan Gethin Ev
Brolio dwi'n galw edfen fel hyn. Neb atab hwn plis.

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 3:58 pm
gan Beti
'Sdim rhaid i ti fynd i Gambia i weld mwnci - mae 'na un newydd dy ateb di!

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 5:11 pm
gan Jeni Wine
Delwedd

ny-ny-ny-ny-nyyyyyyy

:P

PostioPostiwyd: Iau 18 Ion 2007 6:38 pm
gan dilwyn-pierce
fedrwch chi neud yn waeth na aros yn y safari garden hotel yn fajara, ma nhw'n gneud half board a ma na bwll nofio

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 9:55 am
gan Jeni Wine
Delwedd

O'n i'n meddwl mwy yn nherma hyts bach diarffordd fel hwn!

£12 y noson - be well?

Ond mi fasa bach o lycshyri yn braf hefyd - mi ai i chwilio am y lle yn Fajara ar f'union! Diolch, Dilwyn!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 9:57 am
gan Jeni Wine
Be fuis ti'n neud yn Gambia, Dilwyn? Unrhyw awgrymiada ar be i neud, lle i fynd aayb?

Cau ditha dy geg, Gethin Ev, cyn i mi ddod draw i Gnarfon i dy dagu di!

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 10:24 am
gan dilwyn-pierce
pan fues i yna oedd na' ffyc all i neud

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 1:39 pm
gan Bendigeidfran
Gwestai mawr sy yno bron i gyd - y datblygwyr rhyngwladol wedi bachu'r tir gora ar hyd y traethau. Dim hyts bach diarffordd i ymwelwyr mae arna'i ofn. Dim llawer o fywyd gwyllt chwaith - siomedig iawn. Y wlad yn go anial a thlodaidd hefyd - anodd teithio o gwmpas heb gymorth. Mi fues i'n aros hefo teulu mewn pentre am chydig ddyddia - hynny'n ddiddorol er gwaetha'r tlodi. Fel arall ti'n sownd yn y resorts ger y traethau - a gallet fod yn rhywle. Dwi ddim yn meddwl y baswn i'n mynd nol yno. Goa yn India, Thailand a Fietnam ganwaith gwell - mae na flights digon rhad i Goa :D

PostioPostiwyd: Gwe 19 Ion 2007 2:16 pm
gan Jeni Wine
:o ond be am y llefydd bach yma er enghraifft?

http://www.gunjurbeach.com
http://www.paradiseisland-gambia.com

Dwi'n recno ei fod o jyst yn fatar i chwilio yn y llefydd iawn. Yn amlwg, os ti'n mynd i aros yn ardaloedd y resorts, ti mynd i fod yn colli allan ar dipyn o'r wlad. Mae'r bywyd gwyllt i fod yn anhygoel pella'n byd i fyny'r afon ti'n mynd...

ffwcio resorts