Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 15 Chw 2007 1:41 pm
gan S.W.
Mi oeddwn i yn Bosnia (Mostar) a Dubrovnik mkis Medi diwethaf ar fy Mis Mel a mae'r ddwy adral yn ardaloedd diddorol a hardd ofnadwy a gwerth mynd iddynt. Dubrovnik yn le twristaidd braidd ond mae'r hen ddinas yn rhywbeth sydd werth ei weld. Mostar yn dlws ofnadwy. Pobl yn y ddwy ardal yn gyfeillgar dros ben.

Mae'n debyg fod ardal Bae Kotor yn neis yn Montenegro. Dyma rhywle byddwn i'n hoffi mynd iddo fo rhywbryd yn y dyfodol.

Swn i'n hoffi mynd i Serbia rhywbryd hefyd.