Dim byd gwahanol, ond fues i i'r Natural History Museum am y tro cynta' dydd Mawrth! Rhannau ohono fe wedi mynd braidd yn hen erbyn hyn, ond ma'r deinosoriaid (
a'r kids sy'n ofn y deinosoriaid) yn wych
Ardal fach Ffrengig, South Kensington, yn gyfagos hefyd os ti'n ffansi coffi a croisant wedyn... 'Blaw hynny, eiliaf (trydyddiaf?) bryn brialli a Chamden - Portobello Rd werth sgowt hefyd... Os wyt ti'n ffansi sioe gyda'r nos, cer i wefan
official London Theatrei weld y cynigion arbennig. Gwefan y
southbank yn un da 'fyd.