Tudalen 1 o 2

Llundain

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 9:52 am
gan Mr Gasyth
Am fynd i Lundain dros y Pasg. Oes gan rywyn awgrymiadau am lefydd bach yn whanol i ymweld a nhw?

hefyd, oes rhywyn yn gwybod am hostel rhad a chyfleus i aros?

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 10:31 am
gan Chwadan
Dwnim am wahanol, ond ma na wastad hwyl i'w gael yn Camden, a wedyn ella mynd fyny'r ffordd ac i ben Primrose Hill er mwyn gweld yr olygfa. Allsa ti gerdded efo'r gamlas o Paddington i Camden, hebio Sw Llundain (mwncis) a Pharc Regent - chydig bach yn grybi, fel ma camlasoedd mewn dinasoedd, ond reit ddistaw. Greenwich (a'r bryn/parc/golygfa wych cyfagos) yn bentref bach diddorol hefyd - lot o hanes, a ti'n teimlo fel sa ti di gadael Llundain rywsut. Spitalfields yn le reit ddifyr - marchnadoedd cwl yno.

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 12:09 pm
gan garynysmon
Cerdded o Stamford Bridge i Fulham Broadway/Earl's Court ddigon difyr. Gweld y ddau gae peldroed a lle mae Pensiynwyr Chelsea wedi'i lleoli. Ardal cefnog a eitha prydferth mewn ffordd.

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 12:17 pm
gan Beti
Es i i fan'ma http://fancyapint.com/pubs/pub3176.html (Windsor Castle 27-29 Crawford Place)
Lle bach difyr iawn ac o'dd y bwyd Thai yn flasus a rhesymol i Lundain. (Dim bo fi'n gwybod lot - mond dwywaith dwi di bod yna - Llundain lly - ddim y pyb!)

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 12:47 pm
gan joni
Dyw e ddim byd gwahanol na'n wreiddiol - ond byswn i'n argymell spin ar y London Eye. Ti'n gallu gweld am blydi milltiroedd o'r top. Itha cwl i ddweud y gwir.

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 1:05 pm
gan Geraint
Dwisho mynd i'r Bavarian Beer House am gwrw pretzels a sosejes.

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 1:39 pm
gan Madrwyddygryf
Geraint a ddywedodd:Dwisho mynd i'r Bavarian Beer House am gwrw pretzels a sosejes.


O be welai i ar y wefan, mae na rhywbeth mwy diddorol na'r cwrw a snacs. :lol:

Ar y llaw arall, gwerth mynd i Tate Modern a cherdded dros y bont millenium.

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 1:47 pm
gan Wilfred
Madrwyddygryf a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Dwisho mynd i'r Bavarian Beer House am gwrw pretzels a sosejes.


O be welai i ar y wefan, mae na rhywbeth mwy diddorol na'r cwrw a snacs. :lol:

Ar y llaw arall, gwerth mynd i Tate Modern a cherdded dros y bont millenium.


Nes i fynd i'r Tate Modern rhyw pythefnod yn ol. Mae'n dda iawn. Werth mynd yno er mwyn mynd ar y llithren sydd yn y canol ar hyn o bryd. Gweler.

PostioPostiwyd: Mer 28 Chw 2007 8:43 pm
gan Dili Minllyn
Bryn y Briallu uwchben Camden, lle cynhaliodd Iolo Morganwg yr Eisteddfod fodern gyntaf. Gelli di weld Llundain i gyd o'r copa.

Dwi hefyd yn hoff iawn o Amgueddfa London Transport yng Ngardd y Cwfaint, ond mae'r lle ar gau ar hyn o bryd. Mae siop wisgi ddifyr iawn gerllaw.

Re: Llundain

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 9:33 am
gan Fflamingo gwyrdd
Mr Gasyth a ddywedodd:hefyd, oes rhywyn yn gwybod am hostel rhad a chyfleus i aros?


Dwnim pa fath o le tisho i aros, ond dwi wedi bod yn gorfod mynd yno i wneud arholiadau'n ddiweddar (ac angen mynd eto 'mhen y mis) - ac os bwci di ddigon mlaen llaw, mae Travelodge yn wych o ran pris, ac yn ganolog. Cyn lleied â £12 am stafell ddwbl/twin/sengl!

http://www.travelodge.co.uk - ac os nad oes 'na stafelloedd rhad ar ôl yn y travelodge ti wedi clicio arno fo i gael mwy o wybodaeth, mae rhestr o rai cyfagos ar ochr dde'r dudalen ynghyd a'u prisiau.