Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 10:58 am
gan Dwlwen
Dim byd gwahanol, ond fues i i'r Natural History Museum am y tro cynta' dydd Mawrth! Rhannau ohono fe wedi mynd braidd yn hen erbyn hyn, ond ma'r deinosoriaid (a'r kids sy'n ofn y deinosoriaid) yn wych :D Ardal fach Ffrengig, South Kensington, yn gyfagos hefyd os ti'n ffansi coffi a croisant wedyn... 'Blaw hynny, eiliaf (trydyddiaf?) bryn brialli a Chamden - Portobello Rd werth sgowt hefyd... Os wyt ti'n ffansi sioe gyda'r nos, cer i wefan official London Theatrei weld y cynigion arbennig. Gwefan y southbank yn un da 'fyd.

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 12:11 pm
gan garynysmon
Mae'r Imperial War Museum yn wych. Fe dreuliais rhyw 4 awr yno y diwrnod ar ol gem Cymru yn erbyn Brasil yn Llundain, ond mewn gwrionedd, rydych angen diwrnod cyfan yno.

PostioPostiwyd: Llun 09 Ebr 2007 8:48 pm
gan Geraint (un arall)
Rhy hwyr erbyn hyn mae'n siwr gan dy fod ti wedi bod dros y Pasg ond falla fydd hwn o ddefnydd i bobl yn y dyfodol. Ambell awgrym arall:
1. Duck Tours. Taith ar gerbyd sy'n gallu mynd ar y ffordd ac i mewn i'r afon. Mae o'n dechrau oddi ymyl y London Eye.
2. Science Museum. Mae na arddangosfa gemau cyfrifiadurol ymlaen ar hyn o bryd
3. South Bank. Cerdded o Waterloo i Tate Modern a dros y bont i St Paul's gan gymryd bys yn ol i Trafalgar Square. More history than you can shake a stick at!
4. Chinatown Golden Dragon yn un o ffefrynnau i am chinese da
5. Borough Market Bwyd da, organig ar werth (bob dydd dwi'n meddwl heblaw am sul)
6. Whitehall. Eto walk ddiddorol, hanesyddol iawn.


Llefydd i osgoi
1. Oxford Street. Os nad ydach chi yn ffan o chwarae human slalom.
2. Noson Gwyl Dewi SWS. Oes angen esboniad?
Ac er bo fi wedi bod yn meddwl am bum munud allai ddim meddwl am ddim mwy. Mae'n siwr bod na - enwebiadau isod!

PostioPostiwyd: Llun 09 Ebr 2007 9:57 pm
gan huwwaters
Dwi o hyd yn licio crwydro lawr King's Road yn Chelsea. Siope bach neis, a llefydd rhesymol i fwyta ene.

PostioPostiwyd: Llun 09 Ebr 2007 10:24 pm
gan huwcyn1982
Os da chi'n fyw yn lleol, neu am bigo fyny bach o fwyd neis tra yn y ddinas, ma Daylesford Organic newydd agor siop ar Pimlico Road.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ebr 2007 8:25 am
gan Blewyn
Le Boudin Blanc, Trebeck St, Mayfair - os ti'n licio bwyd ffrengig blasus wedi ei goginio yn iawn. Paid a sbio ar y rhestr gwin os nad wyt ti eisiau golchi llestri a hitcho adref ar ol dy ginio. Allan o'r bwyty, tro i'r chwith am beint neu ddeuddeg yn y pub traddodiadol rhyw 40 llath lawr y lon.

PostioPostiwyd: Maw 10 Ebr 2007 12:31 pm
gan huwwaters
huwwaters a ddywedodd:Dwi o hyd yn licio crwydro lawr King's Road yn Chelsea. Siope bach neis, a llefydd rhesymol i fwyta ene.


Mona Lisa ar King's Road yn dda iawn, ac yn rhesymol dros ben. Bwyty Eidalaidd.