Postiwyd: Iau 01 Maw 2007 10:58 am
Dim byd gwahanol, ond fues i i'r Natural History Museum am y tro cynta' dydd Mawrth! Rhannau ohono fe wedi mynd braidd yn hen erbyn hyn, ond ma'r deinosoriaid (a'r kids sy'n ofn y deinosoriaid) yn wych Ardal fach Ffrengig, South Kensington, yn gyfagos hefyd os ti'n ffansi coffi a croisant wedyn... 'Blaw hynny, eiliaf (trydyddiaf?) bryn brialli a Chamden - Portobello Rd werth sgowt hefyd... Os wyt ti'n ffansi sioe gyda'r nos, cer i wefan official London Theatrei weld y cynigion arbennig. Gwefan y southbank yn un da 'fyd.