Tegwared ap Seion a ddywedodd:Ddois i hefyd ar draws Ganolfan Ddiwyllianol Gorllewin Belffast mewn hen eglwys. Lle difyr dros bel ble roedd y Wyddeleg iw glywed yn eithaf gryf yno.
Mi brynnish i lyfr Rala Rwdins yn y wyddeleg yn fanno unwaith
Lle braf am banad. Dim fanno odd un o venues y ddrama gymreig/weddelig 'na slawer dydd?
Oedden nhw'n gwerthu llwyth o grysau t Cowbois yno hefyd - cynnyrch arall o Gymru'n cael ei allfori!
Oedd hi'n eitha doniol/rhyfedd gweld dau blismon yn gadw golwg ar fan securicor yn delifro arian i fanc ar y Falls Road o gofio bod ryw £26miliwn wedi ei ddwyn o fanc y Northern Bank chydig flynyddoedd yn nol gyda bys yn cael ei bwyntio at yr IRA. Wedi dweud hynny roedd yn arydd o'r newid sydd wedi bod yn y dalaith bod y ddau plisom hwn yn sefyll reit wrth ymyl swyddfeydd Republican Sinn Fein (plaid mwy eithafol na'r Sinn Fein dan ni'n ei nabod) yn amlwg iw gweld gan bawb. Rhyw 10 mlynedd yn nol bydde nhw byth di bod digon dewr/gwirion i sefyll ble gall unrhyw un wedi gallu saethu atynt.
Aethon ni ar daith tacsi gyda cwmni arall tro hwn hefyd. Roedd y gyrwr yn dod o'r gymuned Gatholig o un o gadarnleoedd yr IRA a felly cawsant fynd i ganol yr ardaloedd 'go iawn'. Dangoswyd sawl ty oedd wedi eu lloosgi yn y wythnosau diwethaf yn ardal Ballymurhpy yn sgil ffrae gan deuloedd oedd ar un adeg yn cael eu hamddiffyn gan yr IRA. Oherwydd y cadoediad a'#r datblygiadau glweidyddol dydy'r PIRA methu fforddio cael eu gweld i ymddwyn yn dreisgar nag yn tori'r gyfraith bellach felly roedd pobl oedd arfer gwerthu sigarets a petrol anghyfraithlon gyda sel bendith a chefnogaeth yr IRA bellach yn gorfod edrych ar ol eu hunain. Roedd hynny'n olygfa digon syfrdanol. Oherwydd bod sawl gorymdaith wedi ei gynnal yn ddiweddar roedd y giatiau rhwng y Shankill a'r Falls wedi ei gau, oedd hynny yn ei hun eto'n beth anhygoel iw weld. Yr argraff ges i oedd yng Ngorllewin Belffast (a rhannau o Derry am wn i) ydy nad Heddwch sy'n bodoli ond 'stalemate'. Does neb wedi ennill, a mae'r ddau garfan i fod yr un mor arwahan ag y buont erioed. Yr unig wahaniaeth ydy bod modd iddynt bellach gerdded o un ardal i'r llall heb fentro gael eu lladd bellach, er nad ydynt ar y cyfan yn dewis gwneud hyn. Yr hyn sy'n dda yno serch hynny ydy wrth i amser fynd yn ei flaen anoddach fydd hi i'r un o'r ddwy ochr fentro'n nol lawr y trwydydd terfysgol.
Oedd y Guinness yn neis hefyd!