Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Mer 28 Chw 2007 8:18 pm
gan Dili Minllyn
Lle difyr iawn yw Belffast. Bues i yno gyda'r gwaith ychydig flynyddoedd yn ôl. Os ei di, mae rhaid mynd i Dafarn y Goron, hen le gwych iawn, yn llawn snugs bach clyd. Mae’r ddinas yn eithaf da hefyd am fwytai Indiaid a Tsieineaidd.

Dwi’n meddwl i mi aros yn y fan hyn, lle hyfryd ond braidd yn ddrud.

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 8:56 am
gan S.W.
Glywes i am Tafarn y Goron, mi wnaeth Billy Connolly eitem o'r lle yn ystod ei raglen 'Billy Connolly's World Tour of England, Ireland and Wales'. Maen'n debyg bod y Gwr sydd bia'r lle yn Gatholig Gweriniaethol a'i Wraig yn Brotestant Unoliaethol. Mi fynodd hi alw'r lle yn "The Crown' a cael symbol y goron, ond mi fynodd o felly bod y symbol yn cael ei osod ar y llawr wrth gerdded i fewn - felly bod pawb yn gallu sychu eu traed ar y goron. Da iawn!

Awydd mynd yno.

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 10:12 am
gan Wilfred
S.W. a ddywedodd:Glywes i am Tafarn y Goron, mi wnaeth Billy Connolly eitem o'r lle yn ystod ei raglen 'Billy Connolly's World Tour of England, Ireland and Wales'. Maen'n debyg bod y Gwr sydd bia'r lle yn Gatholig Gweriniaethol a'i Wraig yn Brotestant Unoliaethol. Mi fynodd hi alw'r lle yn "The Crown' a cael symbol y goron, ond mi fynodd o felly bod y symbol yn cael ei osod ar y llawr wrth gerdded i fewn - felly bod pawb yn gallu sychu eu traed ar y goron. Da iawn!

Awydd mynd yno.


Es i yno rhyw ddwy flynedd yn ol. Lle diddorol. Y National Trust sydd berchen y dafarn erbyn hyn. gweler

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 12:08 pm
gan garynysmon
Doeddan nhw cau gadael mi i fewn am mod i'n gwisgo cot Cymru llynedd :(

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 11:33 am
gan S.W.
Byddai'n mynd mewn pythefnos. Dwi awydd mynd i weld y murluniau, gweddillion carchar y Maize, y Shankill Road ac ati. Y tacsis du ma'n swnio'n ddifyr fel ffordd o wneud o.

Eusebio, oedd rhain yn gwmniau arbennig oedd yn neud y daith neu just unrhyw black cab? Drud?

Ar hyn o bryd dan ni di bwcio i aros yn y Travelodge yng nghanol y ddinas, ond dwi'n trio chwilio i weld os gallai ddod o hyd i rhywbeth chydig bach yn neisiach ond ddim yn rhy ddrud fel treat. Yr Hilton yn lot rhy ddrud.

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 11:44 am
gan garynysmon
Mae na gwmniau bws dau-lawr yn mynd o gwmpas y ddinas hefyd.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 10:53 am
gan eusebio
S.W. a ddywedodd:Eusebio, oedd rhain yn gwmniau arbennig oedd yn neud y daith neu just unrhyw black cab? Drud?


Concierge y gwesty nath ei drefnu fo i ni ...

PostioPostiwyd: Gwe 11 Mai 2007 3:26 pm
gan S.W.
Wedi penderfynu 'upgradio' i aros yn yr Europa yn lle fel sypreis bach i'r wraig. Dallt ei fod yn enwog yn ystod yr ymladd. Unrhyw un wedi bod yno?

PostioPostiwyd: Sul 13 Mai 2007 3:46 pm
gan Mici
Dwi mynd yno mewn tair wsos fud.

Diolch am y tips hogia

Slymio hi yn yr hostel, dau noson ar y cwrw a reid i weld y murluniau ydi'r plan dwi meddwl 8)

PostioPostiwyd: Sul 13 Mai 2007 4:36 pm
gan dawncyfarwydd
Gen i ryw hunch swn i'n licio mynd i Coleg yn Queens - 'sna rywun yn gwbod os dylwn i neu beidio?