Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Sul 13 Mai 2007 5:14 pm
gan eusebio
S.W. a ddywedodd:Wedi penderfynu 'upgradio' i aros yn yr Europa yn lle fel sypreis bach i'r wraig. Dallt ei fod yn enwog yn ystod yr ymladd. Unrhyw un wedi bod yno?


Do - ddwywaith.
Dyma'r 'most bombed hotel in Europe' yn ystod y trafferthion.
Gofyn i'r concierge am y black cab tour - un kevin gawsom ni!

PostioPostiwyd: Sul 13 Mai 2007 5:15 pm
gan eusebio
... gyda llaw, os tisho brecwast neis, dos allan o'r drws ffrynt - troi i'r chwith a chymryd y chwith cyntaf - mae na gaffi neis ar yr ochr dde o'r stryd!

PostioPostiwyd: Maw 15 Mai 2007 1:20 pm
gan Mici
Wrth ymchwilio am dafarndai Belfast mi ddois ar draws hwn

http://www.worldsbestbars.com/city/belfast/index.htm

Sylwadau ychydig yn hen, a tydi pob tafarn ddim yma ond diddorol nodi rhai o'r sylwadau fud. Mae 'bars' Caerdydd yna fud ond dwi mond yn nabod dau o'r rhestr, oes na gymaint wedi agor ers fi fod yno flwyddyn yn ol :?:

Dipyn o gwyno hefyd ond mae hynny i ddisgwyl, dydi pobl ddim yn mynd ar fforymau i ganmol fel arfer, does mond angen darllen y drivel ar 'Have Your Say' gwefan BBC i weld hynny :lol:

PostioPostiwyd: Maw 15 Mai 2007 7:43 pm
gan S.W.
eusebio a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Wedi penderfynu 'upgradio' i aros yn yr Europa yn lle fel sypreis bach i'r wraig. Dallt ei fod yn enwog yn ystod yr ymladd. Unrhyw un wedi bod yno?


Do - ddwywaith.
Dyma'r 'most bombed hotel in Europe' yn ystod y trafferthion.
Gofyn i'r concierge am y black cab tour - un kevin gawsom ni!


Gwych! Diolch am hynny. Handi cael gwbod hynny. Isio neud yn siwr bod ni'n mynd at y cwmni iawn hefo'r teithiau yne.

A diolch am y cyngor hefo lle i gael brecwast - ti'n amlwg di dallt bod dod o hyd i fwyd da yn uchel iawn ar fy rhestr blaenoriaethau mewn unrhyw le! :D

PostioPostiwyd: Llun 28 Mai 2007 8:03 am
gan S.W.
Wedi dychwelyd o Belffast bellach.

Dinas anhygoel o ddiddorol. Mi es i ar y Black Cab Tour gan deithio o amgylch y Shankill Road a Stad y Shankill i weld y murluniau a'r paratoadau ar gyfer Dathliadau Brwydr y Boyne ym mis Mehefin, wedyn lawr y Falls Road gan alw mewn i'r siop Sinn Fein drws nesa i'w swyddfeydd, cofeb i'r IRA, ar hyd Bombay Street (stryd a lle pwysig iawn yn nechrau'r helyntion dros 30 mlynedd yn nol), ymweld a murluniau'r Wal Ryngwladol is i lawr y Falls.

Mi wnes i hefyd deithio mynd ar y daith bws 'Open Top', oedd er syndod yn dda hefyd (yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r Tacsis). Yno ges i weld Stormont, Carchar Ffordd Clumlin a Llys Crumlin - mae nhw'n ddadfail bellach ac yn cael eu troi'n hostel a canolfan gelfyddydol. A hefyd y dociau a'r craeniau Harland and Wolfe.

Mi wnes i hefyd neud rhan o'r Historic Pubs Tour, ac oedd y gwesty oeddwn in aros ynddo fo dros y ffordd o dafarn enwog y Crown oedd yn wych o le.

Byddwn yn sicr yn awgrymu'n gryf i unrhyw un ymweld a'r ddinas hon - byddwn i'n mynd mor bell a dweud ei fod yn well nag Dulyn a Cork o ran dinasoedd Iwerddon.

PostioPostiwyd: Maw 29 Mai 2007 8:11 am
gan Mici
Yn mynd i Belfast dydd Gwener, edrych mlaen rwan 8)

Does gennai ddim lot o amser yno, dim ond un diwrnod llawn(Wel llai na diwrnod rhai mi ffendio rwla i wylio gem Cymru bydd :) ).

Dwi meddwl mai mond amser am daith tacsi neu taith bws open top fydd gennai.

Pa rhun wyt ti gynghori ydi'r gorau S.W? Ges di amser i dynnu lluniau o'r murluniau? Faint ydi cost y ddau?

Fues i yn edrych ar wefan yr 'Historic Pubs Tour' fud, ond ella mai crwydro nai, di ffendio mai'r sesiwns gora ydi'r rhai heb gynllun.

PostioPostiwyd: Maw 29 Mai 2007 4:28 pm
gan S.W.
Mici a ddywedodd:Yn mynd i Belfast dydd Gwener, edrych mlaen rwan 8)

Does gennai ddim lot o amser yno, dim ond un diwrnod llawn(Wel llai na diwrnod rhai mi ffendio rwla i wylio gem Cymru bydd :) ).

Dwi meddwl mai mond amser am daith tacsi neu taith bws open top fydd gennai.

Pa rhun wyt ti gynghori ydi'r gorau S.W? Ges di amser i dynnu lluniau o'r murluniau? Faint ydi cost y ddau?

Fues i yn edrych ar wefan yr 'Historic Pubs Tour' fud, ond ella mai crwydro nai, di ffendio mai'r sesiwns gora ydi'r rhai heb gynllun.


O ran cael amser i edrych o gwmpas y safleoedd yna'r cwmni tacsis ydy'r gorau. Y Black Cab Tours aethon ni hefo. Mi gawsom ni rhyw 10 munud i chwarter awr i grwydro o amgylch y Shankill i dynnu lluniau o'r murluniau. Mi gawsom ni hefyd amser i neidio allan fel y mynom ni i dynnu lluniau o bethau eraill fel y Cofeb i'r IRA a'r gymuned Weriniaethol oddi ar y Falls Road, y wal heddwch ac ati.

Costiodd y daith £27 i ni am tua awr i awr a hanner- werth pob ceiniog.

O ran y bws. Costiodd o £10 am docyn, ac oeddet ti'n gallu neidio ymlaen ac oddi ar y bws fel oeddet ti isio. Oedd y tocyn yn para 24 awr. Doeddet ti ddim yn gallu gweld y safleoedd mewn cweit gymaint o fanylder, ond oedd o'n handi i gael gweld y safloedd o safle uwch. Hefyd oedd y daith bws yn galluogi i ti weld tu allan i Stormont, a'r dociau - craeniau Harland and Wolff ac ati.

O ran yr Historical Pubs tour - cwbwl naethom ni oedd pigo map o'r ddinas i fyny o'r gwesty (mae'n siwr bod yr un map ar gael o Ganolfan Croeso) a roedd y tafarndai hanesyddol i gyd arno olygu fy mod i'n gallu dianc i'r un agosach ar ol cael llond bol o siopa hefo'r wraig. Byddwn i'n awgrymu dy fod yn mynd i'r Crown ar Greater Victoria Street.

PostioPostiwyd: Maw 29 Mai 2007 5:11 pm
gan Mici
Diolch, mae'r ddwy daith yn swnio'n dda ac yn werth ei gwneud. Gaf weld ar ol cyraedd pa run wnai.

Mi yrrai ypdet ar ol fi fod draw

PostioPostiwyd: Llun 04 Meh 2007 10:16 am
gan Mici
Dwi fatha bechdan yn gwaith heddiw ar ol penwythnos gwallgof gwych yn Belffast, swn i yn canmol y lle i unrhyw un fynd am penwythnos i ffwrdd, uffar o groeso a pawb yn gyfeillgar yno.

Falch o ddeud ges i chydig o ddiwylliant yng nghanol y penwythnos a rhaid deud fod y taith bws werth £11 o bres unrhyw un. Ges i luniau da o olygfeydd y ddinas(er doedd i dim yn syniad da eistedd yn y top, gyda'r holl law).

Ymysg y pobol random nes i gyfarfod oedd rhywun oedd yn ffrindiau efo golgeidwad Wrecsam Mike Ingham, 'hen night' o swydd Efrog, teulu Cymraeg ar y bws, dwy chwaer oedd wedi bod yn trafeilio yn America ers blwyddyn a pan es nol i'r hostel fues yn mwydro efo tair merch o'r Alban, Awstralian a boi o Cork oedd yn mynd i weld rasus TT yn ynys Manaw yn bora. :D

PostioPostiwyd: Llun 04 Meh 2007 11:33 am
gan S.W.
Falch o ddeud ges i chydig o ddiwylliant yng nghanol y penwythnos a rhaid deud fod y taith bws werth £11 o bres unrhyw un.


£10 oedd o pan es i! ;-)

Falch bod ti di mwynhau. Dwi'n gobeithio mynd yn nol yno o fewn y flwyddyn i weld mwy.