Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Llun 04 Meh 2007 4:34 pm
gan sian
Mici a ddywedodd:...a pan es nol i'r hostel ...


Pa hostel wnest ti aros ynddi? Oedd hi'n addas i deuluoedd?
Oedd rhaid trefnu lot ymlaen llaw?
Ydi rhyw fath o gerdyn adnabod â llun - e.e. cerdyn aelodaeth canolfan hamdden - yn gwneud i hedfan?

PostioPostiwyd: Llun 04 Meh 2007 4:47 pm
gan dawncyfarwydd
sian = stalker

:?

PostioPostiwyd: Llun 04 Meh 2007 7:24 pm
gan S.W.
sian a ddywedodd:Ydi rhyw fath o gerdyn adnabod â llun - e.e. cerdyn aelodaeth canolfan hamdden - yn gwneud i hedfan?


Nachdi. Rhaid iddo fod yn gerdyn swyddogol - trwydded yrru, passport, cerdyn adnabod y fyddin ac ati.

PostioPostiwyd: Maw 05 Meh 2007 8:21 am
gan Mici
Pa hostel wnest ti aros ynddi? Oedd hi'n addas i deuluoedd?
Oedd rhaid trefnu lot ymlaen llaw?
Ydi rhyw fath o gerdyn adnabod â llun - e.e. cerdyn aelodaeth canolfan hamdden - yn gwneud i hedfan?


Su mai, nes i aros yn y Belfast International Hostel - Linc yn fama

http://www.hostelworld.com/hosteldetails.php/BelfastInternationalYouthHostel-Belfast-452

Swn i ddeud fod o yn addas i deuluoedd, roedd ambell un yno penwythnos diweddaf a fel mae o yn ddeud ar y wefan dydy nhw ddim yn gadael criwiau o 'stags' a 'hens' aros yno.

Un peth od, gyda'r cerdyn adnabod mi nathon nhw ddal ar fy nrwydded gyrru tan i fi adael yn yr hostel fel diogelwch, braidd yn 'draconian' on i meddwl ond dyna fo.

PostioPostiwyd: Iau 05 Gor 2007 6:12 pm
gan Stiniog
Mynd i Belffast yn mis Medi i'r Open House Festival. Rhywun erioed wedi bod o'r blaen?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 12:16 pm
gan sian
Newydd ddod nôl ar ôl tridiau yn y ddinas. Rhai argraffiadau:

S.W. a ddywedodd: Ydy'r tacsis ma'n ddrud?

Gan fod 6 ohonon ni'n dod o'r maes awyr i'r ddinas gawson ni dacsi i 7. Gan fod y gyrrwr yn eitha difyr - rhoi tipyn o sylwebaeth jest wrth yrru o'r maes awyr i'r gwesty, fe wnaethon ni drefnu i fynd gydag e o gwmpas y ddinas drannoeth. Gostiodd hynny £8 yr un am tua awr ac 20 munud. Roedd e'n dweud bod y bysus coch yn £11 am awr (os ti'n aros arno trwy'r amser). Roedd ei sylwebaeth e'n dipyn fwy personol - roedd e'n stopio ac yn mynd â ni mas mewn gwahanol lefydd. Gweriniaethwr yw e ond roedd e'n "treio" bod yn ddiduedd - aeth e â ni i'r Shankhill ond ollyngodd e ni am dipyn yn y siop fach yn nghanolfan Sinn Fein i brynu souvenirs!

S.W. a ddywedodd:Cefnder y wraig ....yn dweud bod lot o'r cwmniau tacsis yn cael eu rhedeg gan rai mudiadau parafilwrol yn y lle - difyr! :D

Oedd gyrrwr ein tacsi ni'n dweud bod bysus yn cael eu herwgipio a'u llosgi yn y trafferthion ac felly bod cwmniau tacsis cymunedol wedi codi yn y gwahanol ardaloedd - a bod eu prisiau nhw ychydig yn rhatach nag y byddai'r bysus- dim ond yn mynd o gwmpas yr ardal a bod gan y gyrwyr arwyddion llaw arbennig i ddweud lle'r oedden nhw'n mynd.

Mae cyn-garcharorion yn arwain teithiau ar droed hefyd. Swn i'n mynd eto, swn i'n mynd ar un o'r rhain - ond dw i'n meddwl eu bod nhw'n para tair awr. Gweriniaethwyr yw'r rhan fwya o'r rhain ond mae modd holi'n arbennig am rai gan unoliaethwyr.

Mae Culturlann - siop lyfrau, caffi a chanolfan ymwelwyr - ar y Falls Road yn werth ymweliad. Bwyd da - hen eglwys wedi'i wneud yn neis.

Llyfrgell Linen Hall yn dda hefyd - stafell yn cynnwys memorabilia o'r trafferthion - o'r ddwy ochr - clipiau fideo ac ati o newyddion o'r cyfnod + sgyrsiau â phobl oedd wedi byw trwy eu canol - e.e. gwerthwr hufen iâ o dras Eidalaidd - a shwt oedd y peth wedi effeithio arno fe etc.

Doeddan nhw cau gadael mi i fewn (i'r Crown) am mod i'n gwisgo cot Cymru llynedd
Mae 'na arwydd yn dweud na chei di fynd i mewn os yw ti'n gwisgo unrhyw fath o ddillad pêl-droed.

Mae'r tocyn £2.50 y dydd am fynd ar y bysus Metro yn dda. Aethon ni ar fws arferol i Stormont - roedd hwnnw'n impresif iawn!

Pobl y ddinas yn gyfeillgar iawn - fiw i ti stopio i edrych ar fap strydoedd - neu fyse rhywun siwr o gynnig help - a hyd yn oed mynd â ti i ble bynnag o ti'n chwilio amdano!

Gawson ni fwyd da un noson - cynnig dau bryd am bris un - a gan mai 5 ohonon ni oedd yna - gawson ni un pryd extra hefyd!

Tipyn o lefydd ddim yn cymryd cardiau credyd.

Reit, gwaith!

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 12:35 pm
gan S.W.
Dwin gobeithio mynd yn nol yno yn eitha buan. Swn in licio mynd lawr i Derry hefyd. Dinas ffantastig, y gorau o holl ddinasoedd Iwerddon i mi ymweld anhw'n sicr.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 1:48 pm
gan sian
O ie, ai un ohonoch chi oedd yn cerdded trwy ganol y ddinas - ar bwys lle'r BBC - yn siarad ar ffôn nos Fawrth? - gwallt coch a chrys gwyrdd Deddf Iaith Newydd

PostioPostiwyd: Maw 18 Medi 2007 11:32 am
gan S.W.
Newydd ddarllen bod carchar Ffordd Crumlin yn mynd i ail agor i ymwelwyr tan ddechre Rhagfyr. Dwi'n ystyried mynd yn nol yno am benwythnos hir o gwmpas mis tachwedd. Genai ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth y lle a bydd hwn yn gyfle gwych.

Re: Belffast

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 5:51 pm
gan S.W.
Newydd ddod yn nol o fuy ail ymweliad yno. Tro ma mi wnes i fentro'n llawer dyfnach i fewn i'r Falls Road (ardal Weriniaethol) gan ddod ar draws stryd oedd a'r enw difyr "RPG Avenue" (RPG = Rocket Propelled Grenade!). Ddois i hefyd ar draws Ganolfan Ddiwyllianol Gorllewin Belffast mewn hen eglwys. Lle difyr dros bel ble roedd y Wyddeleg iw glywed yn eithaf gryf yno. O be ddarllenais i mewn guide twristaidd mae gobaith o ddynodi Gorllewin Belffast (ag eithrio'r Shankill dwin cymryd) yn Gaeltacht!