Tudalen 5 o 5

Re: Belffast

PostioPostiwyd: Maw 01 Ebr 2008 8:13 pm
gan Tegwared ap Seion
Ddois i hefyd ar draws Ganolfan Ddiwyllianol Gorllewin Belffast mewn hen eglwys. Lle difyr dros bel ble roedd y Wyddeleg iw glywed yn eithaf gryf yno.


Mi brynnish i lyfr Rala Rwdins yn y wyddeleg yn fanno unwaith :D

Lle braf am banad. Dim fanno odd un o venues y ddrama gymreig/weddelig 'na slawer dydd?

Re: Belffast

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:20 am
gan S.W.
Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Ddois i hefyd ar draws Ganolfan Ddiwyllianol Gorllewin Belffast mewn hen eglwys. Lle difyr dros bel ble roedd y Wyddeleg iw glywed yn eithaf gryf yno.


Mi brynnish i lyfr Rala Rwdins yn y wyddeleg yn fanno unwaith :D

Lle braf am banad. Dim fanno odd un o venues y ddrama gymreig/weddelig 'na slawer dydd?


Oedden nhw'n gwerthu llwyth o grysau t Cowbois yno hefyd - cynnyrch arall o Gymru'n cael ei allfori!

Oedd hi'n eitha doniol/rhyfedd gweld dau blismon yn gadw golwg ar fan securicor yn delifro arian i fanc ar y Falls Road o gofio bod ryw £26miliwn wedi ei ddwyn o fanc y Northern Bank chydig flynyddoedd yn nol gyda bys yn cael ei bwyntio at yr IRA. Wedi dweud hynny roedd yn arydd o'r newid sydd wedi bod yn y dalaith bod y ddau plisom hwn yn sefyll reit wrth ymyl swyddfeydd Republican Sinn Fein (plaid mwy eithafol na'r Sinn Fein dan ni'n ei nabod) yn amlwg iw gweld gan bawb. Rhyw 10 mlynedd yn nol bydde nhw byth di bod digon dewr/gwirion i sefyll ble gall unrhyw un wedi gallu saethu atynt.

Aethon ni ar daith tacsi gyda cwmni arall tro hwn hefyd. Roedd y gyrwr yn dod o'r gymuned Gatholig o un o gadarnleoedd yr IRA a felly cawsant fynd i ganol yr ardaloedd 'go iawn'. Dangoswyd sawl ty oedd wedi eu lloosgi yn y wythnosau diwethaf yn ardal Ballymurhpy yn sgil ffrae gan deuloedd oedd ar un adeg yn cael eu hamddiffyn gan yr IRA. Oherwydd y cadoediad a'#r datblygiadau glweidyddol dydy'r PIRA methu fforddio cael eu gweld i ymddwyn yn dreisgar nag yn tori'r gyfraith bellach felly roedd pobl oedd arfer gwerthu sigarets a petrol anghyfraithlon gyda sel bendith a chefnogaeth yr IRA bellach yn gorfod edrych ar ol eu hunain. Roedd hynny'n olygfa digon syfrdanol. Oherwydd bod sawl gorymdaith wedi ei gynnal yn ddiweddar roedd y giatiau rhwng y Shankill a'r Falls wedi ei gau, oedd hynny yn ei hun eto'n beth anhygoel iw weld. Yr argraff ges i oedd yng Ngorllewin Belffast (a rhannau o Derry am wn i) ydy nad Heddwch sy'n bodoli ond 'stalemate'. Does neb wedi ennill, a mae'r ddau garfan i fod yr un mor arwahan ag y buont erioed. Yr unig wahaniaeth ydy bod modd iddynt bellach gerdded o un ardal i'r llall heb fentro gael eu lladd bellach, er nad ydynt ar y cyfan yn dewis gwneud hyn. Yr hyn sy'n dda yno serch hynny ydy wrth i amser fynd yn ei flaen anoddach fydd hi i'r un o'r ddwy ochr fentro'n nol lawr y trwydydd terfysgol.

Oedd y Guinness yn neis hefyd!

Re: Belffast

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:56 am
gan Llefenni
Oni'n un o'r criw oedd yn gweithio ar Frongoch yn y ganolfan yna - a deud y gwir, fana ne's i wylio'r Grand Slam yn 2005! Dwi'n un o'r Cymru prin yna sy'm yn llyfu tîn Iwerddon byth a hefyd, ag oedd rhaid i fi ddeud bod Belffast heb fod yn un o'r profiade gore i fi. Oedd llwyth o'r gynulleidfa ar y nosweithi oedden ni yna yn gyn IRA, ac yn cel 'u clodfori dipyn gen y Cymru eraill oedd o gwmpas :?

Doedd dinas Belffast ddim yn gret, o'n i'n ffendio'r bobl welon ni yn gyndyn i siarad, ond falle bod hyn achos bod golwg nerfus uffernol arna fi trwy'r amser, oedden ni'n aros ar y blwmin falls road ac oedd y newyddion trwy'r 3 diwrnod yn llawn terfysgoedd, treisio ac ymosodiade. Dwi'm awydd mynd eto yn anffodus :(

Re: Belffast

PostioPostiwyd: Mer 02 Ebr 2008 2:39 pm
gan S.W.
Llefenni mae dy brofiad yn un gwbwl wahanol in un i. Doeddwn i'm yn crwydro'r lle yn gofyn i bobl random am y trafferthion ac yn sicr doeddwn im yn mynd ati i lyfu tin y Gwyddelod (na'r Prydeinwyr) oedd yno. Oedd natur y bobl ddois i ar eu traws yn nhafanrdai'r Falls a hefyd yn nhafanrdai 'normal' canol y ddinas, gan gynnwys yn y gwesty yn agos iawn atat ti. Oedden nhw a diddordeb mawr mewn be oedd yn dod a bobl iw dinas nhw, pwy oedden ni, os oedden ni di cael amser da, egluro ble dylswn fynd am fwyd neu Guinness da ayyb. O ran eu natur roedden nhw'n bobl llawer agosach atat ti nag Cork a Dulyn ac yn sicr yn fwy na'r mwyafrif o ddinasoedd ym Mhrydain, heblaw am Gloasgow. Dinas arall sydd a pobl agos atat ti yn fy mhrofiad i.

Gallai ddim canmol y lle digon.