Llinos Spencer a ddywedodd:cochen a ddywedodd:arhoses i fan hyn:
http://www.hostels.com/en/availability. ... umber.1289 ma fe ar Gran Via, sef y prif stryd (theatrau a bars arni). pobl hyfryd yn berchen â'r lle a bydde fi wir yn ei argymell. dydyn nhw ddim yn cynnig brecwast ond ma 'na beiriant coffi a vending machine yna (!)
jyst watcha dy fag, cafodd un fi ei ddwyn tra bo fi'n bwyta brecwast yn un o'r caffis
Mae hynny yn swnio yn gret! Diolch. 28Ewro bob un y noson yn swnio yn dda i mi am leoliad canolig, sy'n lan!!
Dwi wedi clywed fod Madrid yn le am pick pockets. Mi wnes i wisgo 'bum bag' y tro diwethaf es i yno............roeddwn i bron yn 30 ac yn past caring am 'street cred'!
Wel, dwi wedi bod yn Madrid, ag roedd Hostel Santillan just y peth. Roedd y bathroom preifat yn fach, ond yn hynod o lan a neis, fel gweddill yr hostel. Mi fuaswn i yn ei argymell ar gyfer noson neu ddwy. Roedd teledu bach yn yr ystafell, a digonedd o le i droi. Roedd yna hefyd wardrob gyda hangers ynddo fo. Roedd yr hangers yn eithriadol o handi ar gyfer gallu hongian ein dillad gwlyb i sychu! (Roedd hi'n bwrw'n uffernol yno, ac mi roeddem ni yn wlyb at ein croen yn cyrraedd y lle er nad oedd yr orsaf Metro yn bell iawn!)
Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.