Madrid - Hostel da?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Madrid - Hostel da?

Postiogan Llinos Spencer » Llun 05 Maw 2007 11:47 pm

Dwi a fy chwaer isio ffeindio hostel bach neis yn Madrid am noson. Dwi yn fy nhridegau felly ddim yn chwilio am ddim byd gwyllt i ddweud y gwir, ond isio bod yn agos at ganol y ddinas. Da ni'n mynd ym mis Ebrill, ond eisiau bwcio rhywle yn fuan. Mae yna just gormod o ddewis! Felly dwi isio gwybod os ydy rhywun yn gwybod am hostel dda yno?

Mae http://www.30madrid.com i weld yn wefan dda, ac mae yna lwythi o hosteli am lai na 30 Ewro y noson. Ond pa un?? :rolio:
Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.
Llinos Spencer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Llun 27 Meh 2005 2:21 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan wiwer » Maw 06 Maw 2007 11:19 am

Byth wedi bod i Madrid, ond mae wefan http://www.hostelworld.com yn cynnwys adolygiadau or hostels.
Rhithffurf defnyddiwr
wiwer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 10
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 2:50 pm
Lleoliad: Caerdydd a Manceinion

Postiogan cochen » Maw 06 Maw 2007 11:22 am

arhoses i fan hyn:
http://www.hostels.com/en/availability. ... umber.1289

ma fe ar Gran Via, sef y prif stryd (theatrau a bars arni). pobl hyfryd yn berchen â'r lle a bydde fi wir yn ei argymell. dydyn nhw ddim yn cynnig brecwast ond ma 'na beiriant coffi a vending machine yna (!)

jyst watcha dy fag, cafodd un fi ei ddwyn tra bo fi'n bwyta brecwast yn un o'r caffis :(
Rhithffurf defnyddiwr
cochen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 25
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:51 pm
Lleoliad: fan hyn

Hostel Santillan, Madrid

Postiogan Llinos Spencer » Iau 08 Maw 2007 3:53 pm

cochen a ddywedodd:arhoses i fan hyn:
http://www.hostels.com/en/availability. ... umber.1289

ma fe ar Gran Via, sef y prif stryd (theatrau a bars arni). pobl hyfryd yn berchen â'r lle a bydde fi wir yn ei argymell. dydyn nhw ddim yn cynnig brecwast ond ma 'na beiriant coffi a vending machine yna (!)

jyst watcha dy fag, cafodd un fi ei ddwyn tra bo fi'n bwyta brecwast yn un o'r caffis :(


Mae hynny yn swnio yn gret! Diolch. 28Ewro bob un y noson yn swnio yn dda i mi am leoliad canolig, sy'n lan!!

Dwi wedi clywed fod Madrid yn le am pick pockets. Mi wnes i wisgo 'bum bag' y tro diwethaf es i yno............roeddwn i bron yn 30 ac yn past caring am 'street cred'!

:lol:
Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.
Llinos Spencer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Llun 27 Meh 2005 2:21 pm
Lleoliad: Bangor

Re: Hostel Santillan, Madrid

Postiogan Llinos Spencer » Maw 08 Mai 2007 9:34 pm

Llinos Spencer a ddywedodd:
cochen a ddywedodd:arhoses i fan hyn:
http://www.hostels.com/en/availability. ... umber.1289

ma fe ar Gran Via, sef y prif stryd (theatrau a bars arni). pobl hyfryd yn berchen â'r lle a bydde fi wir yn ei argymell. dydyn nhw ddim yn cynnig brecwast ond ma 'na beiriant coffi a vending machine yna (!)

jyst watcha dy fag, cafodd un fi ei ddwyn tra bo fi'n bwyta brecwast yn un o'r caffis :(


Mae hynny yn swnio yn gret! Diolch. 28Ewro bob un y noson yn swnio yn dda i mi am leoliad canolig, sy'n lan!!

Dwi wedi clywed fod Madrid yn le am pick pockets. Mi wnes i wisgo 'bum bag' y tro diwethaf es i yno............roeddwn i bron yn 30 ac yn past caring am 'street cred'!

:lol:


Wel, dwi wedi bod yn Madrid, ag roedd Hostel Santillan just y peth. Roedd y bathroom preifat yn fach, ond yn hynod o lan a neis, fel gweddill yr hostel. Mi fuaswn i yn ei argymell ar gyfer noson neu ddwy. Roedd teledu bach yn yr ystafell, a digonedd o le i droi. Roedd yna hefyd wardrob gyda hangers ynddo fo. Roedd yr hangers yn eithriadol o handi ar gyfer gallu hongian ein dillad gwlyb i sychu! (Roedd hi'n bwrw'n uffernol yno, ac mi roeddem ni yn wlyb at ein croen yn cyrraedd y lle er nad oedd yr orsaf Metro yn bell iawn!) :)
Mwya'r brys, mwya'r rhwystr.
Llinos Spencer
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 45
Ymunwyd: Llun 27 Meh 2005 2:21 pm
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron