Rhufain

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhufain

Postiogan docito » Mer 07 Maw 2007 9:12 am

Rhufain bydd hi i fi yfory.
Mae gen i 3 diwrnod yn y ddinas. Unrhyw awgrymiadau? Unrhyw beth i'w fethu?
Beth am yn y nos? unrhyw dafarndai? Clybiau?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Rhufain

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 07 Maw 2007 9:35 am

docito a ddywedodd:Rhufain bydd hi i fi yfory.
Mae gen i 3 diwrnod yn y ddinas. Unrhyw awgrymiadau? Unrhyw beth i'w fethu?
Beth am yn y nos? unrhyw dafarndai? Clybiau?


Ti'n gadael yn syth ar ôl y gêm? Pam?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Rhufain

Postiogan docito » Mer 07 Maw 2007 9:38 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
docito a ddywedodd:Rhufain bydd hi i fi yfory.
Mae gen i 3 diwrnod yn y ddinas. Unrhyw awgrymiadau? Unrhyw beth i'w fethu?
Beth am yn y nos? unrhyw dafarndai? Clybiau?


Ti'n gadael yn syth ar ôl y gêm? Pam?


Dal awyren nol am 8yb dydd sul. felly bydda'i yno nos iau/gwen/sad.
ges i tocynne hedfan am 40 punt dydd gwener diwetha o stanstead
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 07 Maw 2007 9:56 am

Paid a mynd i dafarn 'Wyddelig' a gwario £50 ar ddeg peint o 'stwff du' cyn neidio i mewn i dacsi a ffeindio allan taw car heddlu yw e.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Llopan » Gwe 09 Maw 2007 1:11 pm

Os ti moyn bwyd neis a rhesymol, PAID mynd i fwytai ar bwys y pethe mawr twristaidd fel y Colosseum! Cer i ardaloedd Trastevere neu Testaccio.

Yn Trastevere ar stryd Viale Trastevere ma' 'na le sy'n neud pizza HYFRYD!! Ac mae'n itha rhad. Enw'r lle yw 'Ai Marmi' (ma lle i eistedd tu fewn a tu fas). Ma'n lle itha prysur, felly paid synnu os oes rhaid i ti weud wrth y waiter faint o bobl ydych chi ac wedyn aros lan at hanner awr am fwrdd - ma' hyn wastad yn digwydd 'da restaurants sy'n boblogaidd 'da phobl leol! (Ond does dim wastad angen aros yn hir).

Ma hefyd Pizzeria Da Remo ar sgwâr Piazza Santa Maria Ausiliatrice, rhif 44. Ma hwn yn ardal Testaccio, jest off stryd Via Marmorata os dwi'n cofio'n iawn.

Ti'n gallu cal bysiau i'r ardaloedd yma o Piazza Venezia. Bws rhif 3 ar gyfer Via Marmorata os ti'n mynd i Da Remo, neu bws rhif 3 i Viale Trastevere i Ai Marmi. Ond os ti'n mynd i Viale Trastevere, ma bws rhif 3 jest yn torri trwyddo fe, felly y trams fydde orau (rhif 8 falle?), a ti'n dal y trams o Argentina. (Neu, wrth gwrs, galle ti gal tacsi!)

Rhein yw fy 2 hoff pizzeria i yn Rhufain ta beth. O ran bars, mae'n bosib mai'r lle mwyaf poblogaidd yw sgwâr Piazza Campo de' Fiori.

O.N. Ar y metro, bysus a trams dal mlan yn dynn i dy fag/walet!
Llopan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 221
Ymunwyd: Mer 26 Hyd 2005 3:38 pm
Lleoliad: Yn y glaw!


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron