gan Llopan » Gwe 09 Maw 2007 1:11 pm
Os ti moyn bwyd neis a rhesymol, PAID mynd i fwytai ar bwys y pethe mawr twristaidd fel y Colosseum! Cer i ardaloedd Trastevere neu Testaccio.
Yn Trastevere ar stryd Viale Trastevere ma' 'na le sy'n neud pizza HYFRYD!! Ac mae'n itha rhad. Enw'r lle yw 'Ai Marmi' (ma lle i eistedd tu fewn a tu fas). Ma'n lle itha prysur, felly paid synnu os oes rhaid i ti weud wrth y waiter faint o bobl ydych chi ac wedyn aros lan at hanner awr am fwrdd - ma' hyn wastad yn digwydd 'da restaurants sy'n boblogaidd 'da phobl leol! (Ond does dim wastad angen aros yn hir).
Ma hefyd Pizzeria Da Remo ar sgwâr Piazza Santa Maria Ausiliatrice, rhif 44. Ma hwn yn ardal Testaccio, jest off stryd Via Marmorata os dwi'n cofio'n iawn.
Ti'n gallu cal bysiau i'r ardaloedd yma o Piazza Venezia. Bws rhif 3 ar gyfer Via Marmorata os ti'n mynd i Da Remo, neu bws rhif 3 i Viale Trastevere i Ai Marmi. Ond os ti'n mynd i Viale Trastevere, ma bws rhif 3 jest yn torri trwyddo fe, felly y trams fydde orau (rhif 8 falle?), a ti'n dal y trams o Argentina. (Neu, wrth gwrs, galle ti gal tacsi!)
Rhein yw fy 2 hoff pizzeria i yn Rhufain ta beth. O ran bars, mae'n bosib mai'r lle mwyaf poblogaidd yw sgwâr Piazza Campo de' Fiori.
O.N. Ar y metro, bysus a trams dal mlan yn dynn i dy fag/walet!