gan MC Sosban » Mer 23 Ion 2008 9:48 am
Os ti'n mynd i America, mi faswn i yn argymell i chdi fynd i Chicago! Hwn ydi fy ninas gora i yn y byd. Mae na gymaint i wneud yno, gan gynnwys Sears Tower, Hancock Building, Navy Pier, Lincoln Park Zoo, Oak Park (Cartref Ernest Hemingway a Frank Lloyd Wright) a Shedd Aquarium, heb gynnwys mynd i'r ardaloedd Cymraeg yno sef Berwyn a Bryn Mawr!...ac mae modd ymlacio ger traethau Llyn Michigan pan mae'n braf, er fod o'n teimlo fwy fatha Mor na Llyn.
Er bod Efrog Newydd yn ddinas anhygoel, dwi'n meddwl fod Chicago hyd yn oed yn well, a gellir ymlacio yno'n haws. Mae hefyd cymdeithas Gymraeg yno, sef y 'Chicago Taffia'