Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Maw 17 Ebr 2007 3:01 pm
gan The Man With Salt Hair
Os da chi erioed yn vegas rhaid chi fynd ar yr BIG SHOT ar dop y 1,149 feet Stratosphear mae o yn nuts :ofn:

Delwedd

Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 11:57 am
gan Cwlcymro
Dreulish i fis yn trafeilio o Colorado i Efrog Newydd ar y Greyhounds. Mi gesi wythnos yn Boulder (wrth ymyl Denver, tref wych, hollol wahanol i weddill America - "The Independent Republic of Boulder" fel ma lot yn ei alw!) wedyn noson yn St Louis (afiach o le ond pobl neis iawn) pedwar diwrnod yn Chicago (gymaint gwell na Efrog Newydd, uchafbwynt y gwylia bron iawn) tridia yn Toronto (dinas fudr, ond base da i fynmd i weld Niagra o ochr Canada, sef yr opchr ora o bell ffordd), tridia yn Washington (lle diddorol am dridia, dim pwynt mynd am lot hirach) cyn gorffan efo pedwar diwrnod yn Efrog Newydd (ddim mor gret a hunna, digon o betha i neud a syllu ar, ond llawn sdres)

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 1:15 pm
gan Blewyn
Cwlcymro a ddywedodd:"The Independent Republic of Boulder" fel ma lot yn ei alw!

Neu "buncha goddam f****n commie hippies!" chwedl fy hen bos o Denver...

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 2:17 pm
gan Cwlcymro
Blewyn a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:"The Independent Republic of Boulder" fel ma lot yn ei alw!

Neu "buncha goddam f****n commie hippies!" chwedl fy hen bos o Denver...


Allai goelio! f****n commie hippies cyfoethog dros ben ddo!

Las Vegas

PostioPostiwyd: Sul 28 Hyd 2007 3:26 pm
gan Stiniog
Su mai?

Dwi'n mynd i Las Vegas wythnos nesa ac am fynd i weld y Grand Canyon a'r Hoover Dam. Oes yna rywun yn gwybod os oes angen bwcio'r 'tours' yma o flaen llaw (ar y rhyngrwyd) neu gai wneud ar ol cyrraedd?

Diolch am unryw help!

Re: Las Vegas

PostioPostiwyd: Mer 31 Hyd 2007 10:28 am
gan The Man With Salt Hair
Stiniog a ddywedodd:Su mai?

Dwi'n mynd i Las Vegas wythnos nesa ac am fynd i weld y Grand Canyon a'r Hoover Dam. Oes yna rywun yn gwybod os oes angen bwcio'r 'tours' yma o flaen llaw (ar y rhyngrwyd) neu gai wneud ar ol cyrraedd?

Diolch am unryw help!


Dwi shwr os ti yn aros mewn hotel reit dda neith nhw helpu chdi fwcio yna. Sbot on o adag i fynd ir sdets, yn enwedi Vegas £1 yn $2.07 :ofn: nutts!

Re: Las Vegas

PostioPostiwyd: Mer 31 Hyd 2007 1:01 pm
gan Madrwyddygryf
Stiniog a ddywedodd:Su mai?

Dwi'n mynd i Las Vegas wythnos nesa ac am fynd i weld y Grand Canyon a'r Hoover Dam. Oes yna rywun yn gwybod os oes angen bwcio'r 'tours' yma o flaen llaw (ar y rhyngrwyd) neu gai wneud ar ol cyrraedd?

Diolch am unryw help!


Dwi'm yn meddwl bydd angen i fwcio mlaen llaw chwaith. Bydd na ddigon o cwmniau tours i gymeryd ti yna.
Mi es i Las Vegas dros 10 mlynedd yn ol. Casau'r lle. Syniad i o uffern.
Fel dywedodd rhwyun unwaith: "Las Vegas wasn't build by winners".

Re: California ar USA yn gyffredinol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 9:48 am
gan MC Sosban
Os ti'n mynd i America, mi faswn i yn argymell i chdi fynd i Chicago! Hwn ydi fy ninas gora i yn y byd. Mae na gymaint i wneud yno, gan gynnwys Sears Tower, Hancock Building, Navy Pier, Lincoln Park Zoo, Oak Park (Cartref Ernest Hemingway a Frank Lloyd Wright) a Shedd Aquarium, heb gynnwys mynd i'r ardaloedd Cymraeg yno sef Berwyn a Bryn Mawr!...ac mae modd ymlacio ger traethau Llyn Michigan pan mae'n braf, er fod o'n teimlo fwy fatha Mor na Llyn.

Er bod Efrog Newydd yn ddinas anhygoel, dwi'n meddwl fod Chicago hyd yn oed yn well, a gellir ymlacio yno'n haws. Mae hefyd cymdeithas Gymraeg yno, sef y 'Chicago Taffia'

Re: California ar USA yn gyffredinol

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 10:29 am
gan joni
MC Sosban a ddywedodd:Os ti'n mynd i America, mi faswn i yn argymell i chdi fynd i Chicago! Hwn ydi fy ninas gora i yn y byd. Mae na gymaint i wneud yno, gan gynnwys Sears Tower, Hancock Building, Navy Pier, Lincoln Park Zoo, Oak Park (Cartref Ernest Hemingway a Frank Lloyd Wright) a Shedd Aquarium, heb gynnwys mynd i'r ardaloedd Cymraeg yno sef Berwyn a Bryn Mawr!...ac mae modd ymlacio ger traethau Llyn Michigan pan mae'n braf, er fod o'n teimlo fwy fatha Mor na Llyn.

Er bod Efrog Newydd yn ddinas anhygoel, dwi'n meddwl fod Chicago hyd yn oed yn well, a gellir ymlacio yno'n haws. Mae hefyd cymdeithas Gymraeg yno, sef y 'Chicago Taffia'

Cytuno'n llwyr efo be ma'r Sosban wedi weud. Ma Chicago yn fantastic o le. Newch popeth sydd ar ei restr uchod a fyddwch yn ddigon hapus. Hefyd ewch i weld y "bean". Bizarre ond cwl!

Yn ogystal a Chicago, ma Boston yn le superb. Ma pawb yna mor chilled out. Dim stress o gwbl. A'r tan gwyllt gore dwi erioed wedi gweld (o'dd hi'n 4th of July ar y pryd pan o'n i yna). byswn i'n gallu byw yn y naill o'r dinasoedd yma.

Efrog Newydd...meh...oreit, I suppose. Ond allen i fyth byw 'na.

Re: California ar USA yn gyffredinol

PostioPostiwyd: Maw 29 Medi 2009 7:54 pm
gan garynysmon
Oes na rhywyn wedi defnyddio Trek America neu rhywbeth cyffelyb? Dwi ffansi mynd, ond beryg ar ben fy hun fysa hynny, a mae o reit daunting ar y funud. Unrhyw awgrymiadau?