Re: California ar USA yn gyffredinol
Postiwyd: Mer 30 Medi 2009 7:30 am
Byddwn i'n awgrymu'r 'West Coast' (sori sa i'n gwybod 'west coast' yn Gymraeg - 'arfordir gorllewin' efallai?). Os ti'n licio'r ffordd yng Nghanol Galiffornia (swnio fel Highway 1 i fi), wedyn byddi di'n joio'r ffordd i'r gogledd yn fawr. Renta car a gyrra lan yr arfordir i Seattle. Cymra'r Redwood Highway a Highways 1 a 5. Mae llawer o ffyrdd ar y ochr a ffyrdd logging i lleoedd 'off the beaten track' (fel dywedwn yng Nghaliffornia). Byddi di'n pasio drwy Volcano Country (Stopia yn Mt. Shasta a hefyd Mt. Lassen i siŵr), Native American Reservations, a gallaf warantu i ti'r byddi di'n edrych ar rhai o'r lleoedd harddaf yn y byd.