Fis Medi, byddaf i a 'nghariad, Angharad, yn symud i Fanceinion i fyw am flwyddyn, gan ei bod hithau'n mynd i ddilyn cwrs Meistr yn y Brifysgol yno.
Rwy wedi dod o hyd i wefan Cymdeithas Cymry Manceinion - Cymdeithas tri chapel Cymraeg yn y ddinas, hyd y gwela i, sy'n cwrdd unwaith y mis o fis Hydref i fis Mawrth.
Oes yna lawer o Gymry ifanc yn byw yn y ddinas? Myfyrwyr? Pobl broffesiynol? Oes cymdeithas, neu griw sy'n cwrdd yn achlysurol?
Diolch,
Iwan