Tudalen 1 o 1

Cymry ifanc ym Manceinion?

PostioPostiwyd: Mer 21 Maw 2007 1:11 pm
gan Iwan Rhys
Fis Medi, byddaf i a 'nghariad, Angharad, yn symud i Fanceinion i fyw am flwyddyn, gan ei bod hithau'n mynd i ddilyn cwrs Meistr yn y Brifysgol yno.

Rwy wedi dod o hyd i wefan Cymdeithas Cymry Manceinion - Cymdeithas tri chapel Cymraeg yn y ddinas, hyd y gwela i, sy'n cwrdd unwaith y mis o fis Hydref i fis Mawrth.

Oes yna lawer o Gymry ifanc yn byw yn y ddinas? Myfyrwyr? Pobl broffesiynol? Oes cymdeithas, neu griw sy'n cwrdd yn achlysurol?

Diolch,
Iwan

PostioPostiwyd: Mer 21 Maw 2007 10:51 pm
gan huwwaters
Oes. Dwi'n nabod nifer o Gymraeg sy'n myfyrwyr ym Manceinion. Dwi hefyd efo teulu'n byw yn y cyffiniau.

Nai drio holi am fwy o wybodaeth ynglŷn รข chymdeithasau etc.