Tudalen 1 o 2

Sdicer 'GB' ar y car

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 11:34 am
gan Geraint
Oes rhaid cael sdicer GB ar eich car tra yn yr EU, fel dwi di weld yn cael eu ddweud mewn sawl lle? Dwi'n ffeinido fo'n anodd i gredu fod rhaid cael un dyddie ma. Ac os oes, byddai jyst yn 'cymru' yn iawn?

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 12:15 pm
gan eusebio
Nes i yrru dramor efo sticer CYM ar gefn y car ac nid un GB - hefyd, pan nes i logi car yn Awstria er mwyn teithio i Croatia, doedd na'm math o sticer ar y car ...

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 12:41 pm
gan Geraint
Wedi ffindio gwybodaeth ar safle AA.

Mae'n dweud hyn:

AA a ddywedodd:(5) GB Stickers are compulsory within the EU unless your UK registration plates display the GB Euro-symbol (Europlates) which became a legal option from 21 March 2001. The Euro plate must comply with the new British Standard (BS AU 145d). The Euro plate is only legally recognised in the EU; it is still a requirement to display a GB sticker when travelling outside the EU.

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 12:49 pm
gan eusebio
Lle ti'n mynd, mae'n siwr ei fod yn dibynnu ar y cops lleol pa mor bwysig ydi'r 'drosedd'.
O fyw mor agos at Borthladd Caergybi, mae' syndod faint o loriau a cheir sy'n dod trwodd heb y bathodynau 'ma

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 12:52 pm
gan Geraint
I Ffrainc dwi'n mynd. Di cops nhw'n sdrict?

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 12:53 pm
gan eusebio
Mae ffrind i mi wedi gyrru yn Ffrainc ar sawl achlysur efo bathodyn CYM yn hytrach na GB ar ei gar ...

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 2:34 pm
gan Ger27
Wedi bod yn Ffrainc cryn dipyn o weithiau a rioed wedi rhoi sticer GB ar y car.

[Efallai fyddai'n werth cal un sbar yn y car rhag ofn bod bobl porthladdoedd yn strict. Elli di ei dynu oddi ar y car unwaith ti ar dir solad!].

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 8:05 pm
gan Tegwared ap Seion
Wedi aros ar ffin Almaen/Swistir (neu Almaen/Awstria, nai'm cofio) flynyddoedd yn ôl ag o'dd y ffycyrs ar y ffîn yn uffernol o strict adag hynny. Berryg bod hynny achos bo ni'n defnyddio lôn fechan heb lawar o draffic oedd yn mynd dros mynydd a bod y swyddogion yn bored. Ta waeth, mi wnaethon nw fynnu bo ni a'r car o'dd yn teithio efo ni yn tynnu'r CYM ac yn rhoi'r GB ar y car. Lwcus i ni roedd ganddo ni GB yn y glyf-compartmynt, ond da ni rioed 'di defnyddio un 'blaw am hynny.

Ac oeddan nhw'n sbio ar ein pasports bob tro oeddan ni'n pasio, a mi fydda hynny'n amal. Jobsworths. :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 8:30 pm
gan Jakous
Jest sdicis sticyr GB ar y car. Neith o'm lladd chdi. Ac os ti wirioneddol mor "Sbiwch arna fi, dwi'n Gymraeg, bla bla bla..." yna rho sticyr Cymru drws nesa idda fo.

:rolio:

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 10:09 pm
gan Beti
Paid a boddran efo sdicyr GB 'mwyn Duw a tithe Gymro. Pam ddylet ti? A rheswm arall, neith na rywun siwr feddwl bo ti'n sais a wedi fandaleiddio dy gar di.
Oi, do one, Jakous! :winc: