Tudalen 1 o 1

o'r gogledd i gaerdydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 1:59 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi'n mynd i fod yn gorfod teithio'n ol ac ymlaen lot yn y misoedd nesa 'ma, a dwi di bod yn sbio ar brisha tren ac awyren. ma meddwl am ddreifio ar hyd yr apedwarsaithdim 'na yn codi'r felan arna' i braidd, ond ma' tren yn cymyd am byth ac ma awyren yn uffar o garbon ffwtprint ac yn ddrud, ond ma'n safio lot o amsar. bob tro dwi'n mynd ar dren ma 'na ddile. tydyn nhw ddim y petha mwya dibynadwy. ond geshi grash mawr a landio'n 'sbyty pan neshi'r daith mewn car ddwy flynadd a hannar yn ol!
dwi isho mynd yn ol ac ymlaen mewn diwrnod, os yn bosib. dwi methu penderfynu be i neud. :?

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 2:05 pm
gan Cymro13
Os na gei di afael ar Superman ma tren yn eitha handi ac os ti'n gorfod neu mwy na 2 siwrne mewn wythos gelli di gael tocyn Freedom of Wales am tua £50 (falle bod e di mynd lan nawr) ond gelli di ei ddefnyddio gymaint a ti moen mewn wythnos

Re: o'r gogledd i gaerdydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 2:55 pm
gan eifs
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:bob tro dwi'n mynd ar dren ma 'na ddile.


pob tro dwi'n mynd lawr mae nhw yn hwyr, a pob tro dwi'n mynd fynu nol ir gogledd, ma'r trennau ahead of schedule, does na ddim byd gwaeth na tren sydd o flaen ei amser, disgwyl o leiaf 5 munud extra ymhob stop!!

tren mashwr fyswn i yn ei ddewis, os gen ti gwmni neu adloniant ma'r amser yn hedfan!

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 2:58 pm
gan Llefenni
Bedi prisie'r awyren?

Alli di wastad gymnysgu pethe fyny yn galli di? Fareiati and ôl ddat :D

Cwpl o ffrindie di deud, os ti'n gwbod pryd ti'n mynd byddai bwcio'r awyren o flaen llaw yn reit rhad, wbeth fel £15-£30 medde nhw. Ond falle bo nhw'n deud celwydd :(

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 3:08 pm
gan Tegwared ap Seion
Na, os ti'n bwcio tua mis o flaen llaw gei di brisiau fel'na. £50 ydi'r pris llawn (dwi'n meddwl)

Re: o'r gogledd i gaerdydd

PostioPostiwyd: Maw 22 Mai 2007 4:06 pm
gan Sili
eifs a ddywedodd:
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:bob tro dwi'n mynd ar dren ma 'na ddile.


pob tro dwi'n mynd lawr mae nhw yn hwyr, a pob tro dwi'n mynd fynu nol ir gogledd, ma'r trennau ahead of schedule, does na ddim byd gwaeth na tren sydd o flaen ei amser, disgwyl o leiaf 5 munud extra ymhob stop!


Wir? Dros y ddwy flynedd ddwytha dwi di bod yn dal y tren o'r de i'r gogledd ac yn ol o leiaf unwaith y mis, yn ddiweddar fwy nag unwaith bob wythnos, a dwi erioed wedi cael yr un dile. Mae'r busnas o orfod aros ugain munud yn Shwsberi bob siwrna yn mynd ar fy nerfa i'n uffernol mae'n rhaid cyfadda ond oni bai fod na rhywun arall yn fodlon dreifio fi tw a ffro, fyddwn i wastad yn dal y tren. Er fod o'n cymryd pedair awr a hanner, yn oer waeth be di'r tywydd a wastad yn drewi o ogla traed.

Dwi fel arfer yn cael tocyn 'Freedom of Wales' am £42.99 munud dwytha efo nhocyn myfyriwr, taswn i'n bwcio fis o flaen llaw i bob siwrna mi fyddwn i'n gallu cael retyrn am rhyw £15, sydd yn rhad ar y naw. Dwi'n awyddus i drio hedfan o'r de unwaith jest am y profiad, ond dwi'n ama nad ydi ffeindio fy ffordd i Ynys Mon a wedyn o maes awyr Caerdydd i Cathays ddim yn union yn mynd i safio lot o amser nac arian yn y pendraw...

PostioPostiwyd: Iau 24 Mai 2007 10:54 am
gan Tracsiwt Gwyrdd
dwi di penderfynu dreifio tro 'ma. mae o'n rhatach! :?

PostioPostiwyd: Iau 24 Mai 2007 11:16 am
gan garynysmon
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:dwi di penderfynu dreifio tro 'ma. mae o'n rhatach! :?


Mae o 'sti. Gallu bod yn brafiach a mwy hamddenol os oes gen ti ddigon o amser, a dim ar frys i le'm byd hefyd.