eifs a ddywedodd:Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:bob tro dwi'n mynd ar dren ma 'na ddile.
pob tro dwi'n mynd lawr mae nhw yn hwyr, a pob tro dwi'n mynd fynu nol ir gogledd, ma'r trennau ahead of schedule, does na ddim byd gwaeth na tren sydd o flaen ei amser, disgwyl o leiaf 5 munud extra ymhob stop!
Wir? Dros y ddwy flynedd ddwytha dwi di bod yn dal y tren o'r de i'r gogledd ac yn ol o leiaf unwaith y mis, yn ddiweddar fwy nag unwaith bob wythnos, a dwi erioed wedi cael yr un dile. Mae'r busnas o orfod aros ugain munud yn Shwsberi bob siwrna yn mynd ar fy nerfa i'n uffernol mae'n rhaid cyfadda ond oni bai fod na rhywun arall yn fodlon dreifio fi tw a ffro, fyddwn i wastad yn dal y tren.
Er fod o'n cymryd pedair awr a hanner, yn oer waeth be di'r tywydd a wastad yn drewi o ogla traed.
Dwi fel arfer yn cael tocyn 'Freedom of Wales' am £42.99 munud dwytha efo nhocyn myfyriwr, taswn i'n bwcio fis o flaen llaw i bob siwrna mi fyddwn i'n gallu cael retyrn am rhyw £15, sydd yn rhad ar y naw. Dwi'n awyddus i drio hedfan o'r de unwaith jest am y profiad, ond dwi'n ama nad ydi ffeindio fy ffordd i Ynys Mon a wedyn o maes awyr Caerdydd i Cathays ddim yn union yn mynd i safio lot o amser nac arian yn y pendraw...