Tudalen 1 o 2

Edefyn Gwyliau Haf 2007

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 10:07 am
gan Dwlwen
Bwrw glaw yn sobor iawn, a dyna pam dwi'n cychwyn edefyn gwyliau Haf 2007 i ni i gyd gael anwybyddu'r glaw/ arholiadau/ swydd afiach ac edrych 'mlaen i'r Haf.

Usual suspects i finne 'leni - 'Steddfod, Gwyl y Dyn Gwyrdd... Ond yn ogystal a 'nny, fyddai'n teithio i Bavaria i fynychu priodas ffrind yn Wurzburg. Wy'n edrych 'mlaen at deithio'r holl ffordd o Lundain ar y tren - Costi jyst dros £100, a 'mond tair gwaith sy' rhaid newid :ofn: :D

Felly be' yw plans pawb arall yr Haf 'ma...

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 10:43 am
gan Owain
Cofier Gig Mawr Bont sy'n benwythnos eleni gyda campio a phopeth! Er fod y gair 'gwyl' ddim yn nheitl y digwyddiad dwi'n meddwl fod o'n fwy 'na cwalifio :winc:

Re: Edefyn Gwyliau Haf 2007

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 10:46 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dwlwen a ddywedodd:Ond yn ogystal a 'nny, fyddai'n teithio i Bavaria i fynychu priodas ffrind yn Wurzburg. Wy'n edrych 'mlaen at deithio'r holl ffordd o Lundain ar y tren - Costi jyst dros £100, a 'mond tair gwaith sy' rhaid newid :ofn: :D


Jyst dros gan punt, aie? Fi ar fin bwcio i fynd ar y trên o Lundain i Chamonix i fynd i briodas ym mis Awst. Ai drwy Rail Eurpoe nes ti archebu dy docyn?

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 10:56 am
gan Wierdo
Sdeddfod maes b a llebynnag arall allai fforddio. Dwin gobeithio allai fynd i Gaeredin ddiwedd yr haf efo nghariad (sydd yn gwybod dim am hyn efo...mwahaha) chos neshi ddisgyn mewn cariad a'r lle pan atho ni yna i weld y rygbi!!

Re: Edefyn Gwyliau Haf 2007

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 11:00 am
gan Dwlwen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Jyst dros gan punt, aie? Fi ar fin bwcio i fynd ar y trên o Lundain i Chamonix i fynd i briodas ym mis Awst. Ai drwy Rail Eurpoe nes ti archebu dy docyn?

Nyp - tocyn Eurostar o Lundain i Frwsel (£45 return i bobl 25 ac iau trwy fwcio'n gynnar :winc: ), yna tocyn o Frwsel i Wurzburg o wefan trenau'r Almaen (Die Bahn). Cer i gael sgowt ar wefan The Man in Seat 61 i gael y gen ar deithio i *unman* via tren a bad.

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 11:01 am
gan Jeni Wine
sardinia
gwyl ceir gwyllt
gwyl sonar ym marcelona
bwlgaria i baragleidio
llundain i gwffast ddwr
wakestock
gwyl gerddoriaeth frasilian yn lerpwl
steddfod
gwyl y dyn gwyrdd
gwyl macs

Re: Edefyn Gwyliau Haf 2007

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 11:12 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dwlwen a ddywedodd:Nyp - tocyn Eurostar o Lundain i Frwsel (£45 return i bobl 25 ac iau trwy fwcio'n gynnar :winc: ), yna tocyn o Frwsel i Wurzburg o wefan trenau'r Almaen (Die Bahn). Cer i gael sgowt ar wefan The Man in Seat 61 i gael y gen ar deithio i *unman* via tren a bad.


Aye, 'di bod fyna. Shit, mae'n bryd addasu'r 1981 ar y pasbort i 1982... :(

Re: Edefyn Gwyliau Haf 2007

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 11:15 am
gan Rhodri Nwdls
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:Ond yn ogystal a 'nny, fyddai'n teithio i Bavaria i fynychu priodas ffrind yn Wurzburg. Wy'n edrych 'mlaen at deithio'r holl ffordd o Lundain ar y tren - Costi jyst dros £100, a 'mond tair gwaith sy' rhaid newid :ofn: :D


Jyst dros gan punt, aie? Fi ar fin bwcio i fynd ar y trên o Lundain i Chamonix i fynd i briodas ym mis Awst. Ai drwy Rail Eurpoe nes ti archebu dy docyn?

Mae Ffestiniog Travel yn dda am docynnau trên Ewropeaidd. Nawn nhw sortio allan yr amserlen orau, a falla gei di rywun yn sairad Cymraeg fo ti!

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 12:09 pm
gan Sili
Ar y funud, y plania ydi mynychu pob gwyl neu gig yng Nghymru allai gyrraedd, gneud lot o beintio, dysgu Llydaweg a gneud lot o gysgu mewn cefn fan goch.

Cyn belled a fod gwylia yn y cwestiwn, dwi a'r cariad i weld yn styc yn y Gogledd ar hyn o bryd *grymbl grymbl grymbl* :? Trip (eto mewn cefn fan) i'r Alban os di petha'n troi'n desprat mashwr...

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 12:57 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
£234 i fynd ar drên, £69 i hedfan. Cydwybod neu'r boced... Owff! :(