Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 3:28 pm
gan tafod_bach
dyddie fan hyn a fan draw gaf i - a sai'n cal bwcio gwylie ym mis awst :x sooo: llundain i hangio mas yn y colony room a prynnu shwz
throat singing workshops yn gaerdydd a thrip i bentre ifan i warblo dros sir benfras
glastonbury i agor fy chakras (eto. ac ar ol yr wyl.)
gyrgrynt i edrych ar ol ffrind/agoriad arddangosfa (ma da fi bedair bwb yn un or darlunie! mmmmm, erotig)/may baaawls
sussex i hango mas da vassily'r lama (a piers ei geidwad) a bymblo rownd de lloegr.
a wedyn ma cwpwl o ddyddie'n sbar 'da fi ganol gorffennaf: any suggestions?

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 3:38 pm
gan Mihangel Macintosh
Mynd i:

Sonar, Barcelona
Bwlgaria
Wêcstoc
Steddfod
Gwyl y Dyn Gwyrdd, falle
Gwyl Macs

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 5:20 pm
gan krustysnaks
Dod nôl o'r Coleg.
Aberystwyth am dri mis.
Mynd nôl i'r Coleg.

Dwi angen gwneud cynlluniau ...

PostioPostiwyd: Mer 30 Mai 2007 8:52 pm
gan Llio Mad
Gwyl Car Gwyllt
Sesiwn/Wakestock
Steddfod

a rheiny di'r unig deffinets!
gigio gymaint a phosib man debyg...

mam a dad yn mynd i wlad yr ia, ond dwi'm yn cael mynd!
Dwi mor jelys... :(

PostioPostiwyd: Iau 31 Mai 2007 5:05 am
gan Blewyn
Dringo Kilimanjaro, wythnos o safari a tridiau yn Zanzibar.......gobeithio
O leiaf dwy benwythnos yn Dubai yn siopa a bwyta...

PostioPostiwyd: Iau 31 Mai 2007 5:57 am
gan sionowain
Mynd i

Venice
Sesiwn Fawr
Eisteddfod
Tan y Draig
Gwyl Macs

PostioPostiwyd: Iau 31 Mai 2007 3:26 pm
gan Cawslyd
Reit, dwi off i Frwsel ddiwedd mis 'ma (wel, y mis sy'n dechra fory 'llu) am 'chydig o ddyddia'. Ond cyn hynny, mashwr neithi noson yng Ngŵyl Car Gwyllt. Mashwr ai i unai Sesiwn Fawr neu Wêcstoc, a genai ffansi mynd i Ŵyl y Cenhedloedd Bychan hefyd, ond gai weld. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i fynd i Womad, os ella'i ffindio'n ffordd yna. A diwadd yr ha' dwi'n cael mynd i Efrog Newydd ac i rannau a Canada, fydd yn wych, gobeithio. :D
O, a dwi di anghofio, dwi am y Sdeddfod 'fyd. Gwd styff.

PostioPostiwyd: Llun 11 Meh 2007 1:57 pm
gan S.W.
I Oban, yn ucheldiroedd yr Alban eto diwedd mis yma at deulu'r wraig.

Hefyd ar ddiwedd Gorffennaf yn mynd am benwythnos i Ddulyn.

Gobeithio mynd i rhywle ddechrau mis Medi. Dim yn siwr ble eto.

PostioPostiwyd: Llun 11 Meh 2007 2:48 pm
gan Siffrwd Helyg
Mynd i Magaluf mewn pythefnos da ffrindie ysgol. hmmm. Ddim cweit yn siwr sut i deimlo am hwnna - ond fi di talu nawr so man a man joio!

Wedyn gwyl Summercase yn Barcelona fel anrheg 21ain gan y rhieni - gyda ffrindie coleg - woohoo!

Sesiwn fawr, o bosib, Steddfod ac yna i Ffrainc am wythnos gyda'r teulu a ffrindie a syth nol i Gwyl Macs. Braf braf!

Oww, egseited i gyd nawr :D

PostioPostiwyd: Sad 04 Awst 2007 7:27 pm
gan aLexus
Fyddai yng Nghaeredin yn ystod mis awst yn perfformio drama gomedi newydd yn yr Wyl. Os oes unrhyw un i fyny, dewch i weld... ma'n grêt. (a ma'r ddrama wedi ennill gwobr... woooo)

Coat
Smirnoff Underbelly (White Belly)
12.45 y prynhawn
2il-26ain o Awst 2007 (ddim 13eg)

http://www.LoveYourCoat.com

Joiwch yr hâf.