Es i Croatia tua 10 mlynedd yn ol, felly braidd yn rhy hir o bosib, o'n i wedi dwli, ac odd hi'n dwym iawn iawn. Tren i Zagreb, dinas cymharol fach, dim byd ffantastic, a wedyn i lawr i Split a Dubrovnik. Taith tren ar hyd yr Adriatig yw un o'r teithiau prydferthaf i fi wneud.
Split yn hen dref Rufeinig, anhygoel, siopau wedi'u hadeiladu o fewn yr hen furiau. Dubrovnik - waw! Ond gallaf fentro bod hi'n dwristaidd ofnadwy, odd Croatia yn hynod o dwristaidd cyn y rhyfel. Hen dref Dubrovnik yn UNESCO heritage thingy, gwych! O'n i'n gallu gweld olion y rhyfel - bwledi yn y muriau ayb Odd y mor yno mor mor las a chynnes... ie, atgofion melys yn wir...
Joiwch
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.