Tudalen 1 o 1

Croatia

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 11:20 am
gan Cynyr
Dwi newydd fwcio gwylie gyda'r 'wejen' i Croatia mis Awst yma.
Ni di gael lle yn Orebic sydd ar benrhyn oddi ar y prif dir. Mae'r lle yn edrych yn fendigedig.

Rhywun wedi bod yno? unrhyw dips?
Da ni ddim yn rhai sy'n eistedd ar y traeth bob dydd (er fydd ambell un wrth rheswm)

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 11:49 am
gan Beti
W, mae'r fi a'r sbaner yn mynd i Plat (wrth ymyl Dubrovnik) wsos ar ôl Steddfod. Rhywun wedi bod i fan'na?
Mae Croatia i fod yn lyyyyyysh! Dwi methu ycin aros. 8)
Mae hwn fan'ma fyd...
viewtopic.php?t=18205&highlight=croatia

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 1:50 pm
gan S.W.
Beti a ddywedodd:W, mae'r fi a'r sbaner yn mynd i Plat (wrth ymyl Dubrovnik) wsos ar ôl Steddfod. Rhywun wedi bod i fan'na?
Mae Croatia i fod yn lyyyyyysh! Dwi methu ycin aros. 8)
Mae hwn fan'ma fyd...
viewtopic.php?t=18205&highlight=croatia


Es i i Dubrovnik ar fy mis mel yn mis Medi llynnedd. Gwlad anhygoel o neis. Dubrovnik ei hun yn le neis iawn a diddorol o ran yr hen ddinas. Lot o dwristiaid yno, yn enwedig pan oedd y llongau cruise yn hwylio i fewn. Gwell fyddai ymwled a hen ran y ddinas yn y bore.

Naethon ni hefyd deithio i fyny i Mostar yn Bosnia am y diwrnod. Ardal neis iawn arall.

Pobl anhygoel o garedig yno hefyd, byddwn yn mynd yn nol yno'n syth.

PostioPostiwyd: Mer 11 Gor 2007 10:03 pm
gan Gowpi
Es i Croatia tua 10 mlynedd yn ol, felly braidd yn rhy hir o bosib, o'n i wedi dwli, ac odd hi'n dwym iawn iawn. Tren i Zagreb, dinas cymharol fach, dim byd ffantastic, a wedyn i lawr i Split a Dubrovnik. Taith tren ar hyd yr Adriatig yw un o'r teithiau prydferthaf i fi wneud.

Split yn hen dref Rufeinig, anhygoel, siopau wedi'u hadeiladu o fewn yr hen furiau. Dubrovnik - waw! Ond gallaf fentro bod hi'n dwristaidd ofnadwy, odd Croatia yn hynod o dwristaidd cyn y rhyfel. Hen dref Dubrovnik yn UNESCO heritage thingy, gwych! O'n i'n gallu gweld olion y rhyfel - bwledi yn y muriau ayb Odd y mor yno mor mor las a chynnes... ie, atgofion melys yn wir...

Joiwch 8)