Tudalen 1 o 1

San Sebastian

PostioPostiwyd: Mer 18 Gor 2007 11:22 pm
gan Wil wal waliog
Mynd yno ym mis Hydref. Unrhyw dips?

Ni angen hostel ar gyfer 7 o ni. Unrhywun wedi bod?

PostioPostiwyd: Iau 19 Gor 2007 1:40 pm
gan Rhys
Rioed di clywed am y lle. Ydi o rhywle'n ymyl Donostia?


:winc:

PostioPostiwyd: Iau 19 Gor 2007 4:07 pm
gan Rhodri Nwdls
Pintxos, pintxos, pintxos...a Patxaran. Mmmm. A Kalimotxo a Cuba Libre...jest byta ac yfed a fyddi di'n hapus fel y boi yna. Dwi'm yn cofio lle oeddan ni'n aros - rhyw hostel digon twt wir. O'n i'm yno lot.

PostioPostiwyd: Iau 19 Gor 2007 4:29 pm
gan Geraint
Pinxtos, una canna, vino tinto, Txakoli, Eskerrik Asko! Bwyta ac yfed trwy'r dydd yn y bars gwych yn yr hen dref. Caru'r lle.

Nes i ffindio hostel wrth grwydro rownd yr hen dref, i ddeud y gwir daeth fenyw lan atom yn y stryd i gynnig lle yn ei hostel, siwr fydd digon o le yn hydref (heblaw os oes rhyw wyl mawr ymlaen)

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 8:19 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Geraint a ddywedodd:Pinxtos, una canna, vino tinto, Txakoli, Eskerrik Asko! Bwyta ac yfed trwy'r dydd yn y bars gwych yn yr hen dref. Caru'r lle.

Nes i ffindio hostel wrth grwydro rownd yr hen dref, i ddeud y gwir daeth fenyw lan atom yn y stryd i gynnig lle yn ei hostel, siwr fydd digon o le yn hydref (heblaw os oes rhyw wyl mawr ymlaen)


Fe fyddwn ni'n ei cholli hi. Damo.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 11:48 am
gan Wil wal waliog
Diolch yn fawr i chi. Ffili aros. . .

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 5:44 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Lyfli.
Llwybrau beic yno.
Rodd 'na wyl fwyd a dawnsio traddodiadol ar un o'r sgwaria' pan oeddan ni yno llynnedd.

PostioPostiwyd: Sad 28 Gor 2007 10:16 am
gan Iestyn Davies
Wedi bod yno dwy flynedd yn ol. Lle gwych, Rio de Janeiro Gwlad y Basg! Y lle orau i aros yw yn yr hen dref, lle mae pensions yn eithaf rhad ond mae'n werth talu i fod yng nghanol yr awyrgylch.

PostioPostiwyd: Sad 28 Gor 2007 5:53 pm
gan Geraint
Fy mrhofiad i oedd perchennog Pension yn dod fyny atom yn y stryd yn gofyn os oeddent angen lle, gan ein fod yn crwdro o gwmpas efo rycsac yn edrych ar goll, cawsom sdafell iawn a rhad ganddi reit ynghanol yr hen dref.

Edrychwch am y siop lyfrau/cerddoriaeth basgeg yn yr hen dref, sydd yn siop fawr ac fel virgin/hmv i bopeth iaith basgeg.