haili recomendid.
teimlo'n HOLLOL wahanol i unrhywle arall dwi erioed di bod.
nes i ddim ffeindio fe mor ddrud a hynny i ddweud y gwir. don't get me wrong, dyw e ddim yn rhad. 10 / 20 mlynedd yn ol rwy'n siwr ei fod e'n uffernol o ddrud, ond erbyn hyn ma gweddill dinasoedd mawr y byd wedi dal lan . fyddi di ddim yn sylwi fod e lot drytach na rhywle fel llundain
* ma modd cael cinio helaeth mewn lot o fwytai am ¥1000 (tua £4)
* llety yn ddrud, ond eto os wyt ti'n gwneud bach o ymchwil dim gwaeth na llundain
* ma yfed yn eitha drud, ond eto ma na fargeinion i gael (a cyfle i chwerthin ar y dynion busnes yn rolio rownd y lle - ma'n nhw'n genedl o lightweights ar y cyfan!)
* teithio o gwmpas y ddinas yn rhad (ar y subway) a, fel byddech yn disgwyl, yn rhedeg 'bang on time'!
* mantais mawr hefyd yw bod rhan fwyaf o'r pethe i weld yna am ddim (e.e. shrines, ardaloedd gwahanol). ychydig iawn o arian nes i wario i gael mynediad i bethe. un o'r ychydig bethau nethon ni dalu i fynd iddo oedd y mori tower - twr anhygoel yn roppongi hills. datblygiad gorllewinol iawn - ma'n siwr byddai well gan lot o fobl osgoi llefydd fel hyn wrth fynd i weld a dinas gyda gymaint i gynnig, ond roedd yr olygfa yn stunning!
cyfleoedd ym mhob man i wario arian sili ar unrhyw beth - bwyd, diod, dillad, gadgets. consumer nation go iawn!
es i mis Rhagfyr llynedd. er nad yw siapan yn wlad gristnogol, ma nhw'n mynd all out am nadolig - goleuadau addurniadol ym mhob man. fel lot o bethe gorllewinol, ma japan wedi cau mewn ar yr elfen commercial, ond roedd y lle yn edrych yn anhygoel gyda'r nos.
fe aethon ni ar gwpwl o day trips mas o tokyo - un i kamakura (hen brif ddinas siapan) a'r llall i mynydd fuji (a gweld dim o'r copa). ma lot o lefydd i weld o fewn rhyw awr neu ddwy ar y tren o tokyo sy'n werth gweld.