Newydd ddod yn ôl o wythnos ar Ynys Wyth. Lle braf, er mod wedi siomi rywfaint nad oedd y lle mor wahanol i weddill Lloegr ag ro’n i’n disgwyl.
Ymhlith yr atyniadau sy’n werth eu gweld, yn fy nhyb bach i, mae
Parc y Nodwyddau gyda chadeiriau cêbl holl frawychus o ben y glogwyn i’r traeth, lle gallwch
ddal cwch i gael cip ar y creigiau gwynion enwog.
Hefyd, cawsom ddiwrnod difyr ar
Reilffordd Stêm Ynys Wyth, a difyrru awr neu ddwy yn y
pentref model ddiwrnod arall.
Os hanes yw’ch hoffter, mae’n werth gweld
Tŷ Osborne, hen gartre’r Frenhines Fictoria ar yr ynys, a
Chastell Carisbrooke lle y bu Siarl I yn garcharor yn ystod y Rhyfel Cartref.
Roedd cip ar y
papur lleol yn bur ddadlennol hefyd. Roedd trafodaeth am gadw rhai tai ar gyfer pobl leol (swnio’n gyfarwydd?), gyda llythyr gan Sais o’r tir mawr yn dweud fod e’n hoff iawn o’r ynys a bod unrhyw gyfyngu o’r fath ar y farchnad dai’n annerbyniol (swnio’n gyfarwydd?). Mae hefyd ffrae mawr yn mynd ymlaen am gadw ysgolion bach yr ynys ar agor (cyfarwydd eto?).