Ynys Wyth.

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ynys Wyth.

Postiogan Wilfred » Maw 24 Gor 2007 12:37 pm

Dwi'n draw i Ynys Wyth dros y penwythnos. Rhywun di bod yno? Be di'r peth gora i neud tra dwi yna?
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 24 Gor 2007 7:01 pm

Mi fues yno pan o'n i'n blentyn bach, ac unwaith wedyn pan o'n i tua 15 oed. Os cofia' i'n iawn, mae rheilffordd fach yno, lot o draethau gan gynnwys un arbennig lle mae'r clogwynni o dywod o wahanol liwiau (Alum Bay?). Mae ychydig o drefi bach neis hefyd - mae lot o siopau bach difyr yn y brif dref (alla i ddim cofio ei henw nawr). Hefyd, mae un o hen blastai'r Frenhines Victoria - Osbourne House - sy'n dda os oes diddordeb gyda ti mewn hanes.

Os wyt ti'n mynd trwy Portsmouth ar y ffordd, mae'n werth mynd i weld HMS Victory yno, sef llong y Llyngesydd Nelson ym Mrwydr Traffalgar.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Maw 24 Gor 2007 7:06 pm

Es i, fel Dili, i Ynys Wyth pan yr oeddwn yn fach - tua 6/7.

Be dwi yn cofio yw Osbourne House, ryw le o'r enw Ryde ("Ryde where you walk" - dywediad gwirion) a clogwyni calch gwyn gyda goleudy.

Dwi'n ymwybodol o Regatta sy'n digwydd ar Ynys Wyth bob blwyddyn ble mae rhai B&Biau yn codi hyd at £10,000 (!!!) y noson!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Maw 24 Gor 2007 7:10 pm

huwwaters a ddywedodd:Be dwi yn cofio yw Osbourne House, ryw le o'r enw Ryde ("Ryde where you walk" - dywediad gwirion) a clogwyni calch gwyn gyda goleudy.

"The Needles" yw'r enw lleol ar y rheini. Gwerth eu gweld hefyd. Diolch am fy atgoffa.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Pogo » Maw 02 Hyd 2007 11:26 pm

Mae'n syndod i fi mod i ddim wedi dod ar draws yr edefyn yma o'r blaen.

Ces i fy ngeni a fy magu yn Ynys Wyth.

Mae Mam a Nhad a fy nghyn-wraig yn dal i fyw yno.

Dwi'n treulio bob haf ar yr ynys.

Lle bach hyfryd.

The 7 wonders of Wight.

Ryde where you can walk.
Cowes you cannot milk.
Needles you cannot thread.
Newport you cannot bottle.
Freshwater you cannot drink.
Newtown which is old.
Lake which has no water.

'Caulkheads' yw'r trigolion brodorol.

'Overners' yw'r bobl o'r tir mawr.

'Grockles' yw twristiaid.

'Mallyshag' yw lindys.

'Nammet' yw 'pryd o fwyd.

'Scummers' yw pobl o Southampton, a 'Skates' yw pobl o Portsmouth.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Postiogan Dili Minllyn » Mer 19 Rhag 2007 12:58 pm

Wedi gwneud ychydig o ymchwil mae’n debyg mai Ynys yr Wyth oedd enw gwreiddiol yr ynys, a bod yr ail elfen yn dod naill ai o gwaith (sef tro, fel yn unwaith, dwywaith ac ati) neu o gwyth (sef sianel neu bibell, fel yn gwythïen). Cafwyd yr enw gan fod y môr rhwng yr ynys a’r tir mawr yn hollti a throi i ddau gyfeiriad (fel y gwelir yn siâp “V” y Solent).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Ynys Wyth.

Postiogan Dili Minllyn » Sad 05 Ebr 2008 6:11 pm

Newydd ddod yn ôl o wythnos ar Ynys Wyth. Lle braf, er mod wedi siomi rywfaint nad oedd y lle mor wahanol i weddill Lloegr ag ro’n i’n disgwyl.

Ymhlith yr atyniadau sy’n werth eu gweld, yn fy nhyb bach i, mae Parc y Nodwyddau gyda chadeiriau cêbl holl frawychus o ben y glogwyn i’r traeth, lle gallwch ddal cwch i gael cip ar y creigiau gwynion enwog.

Hefyd, cawsom ddiwrnod difyr ar Reilffordd Stêm Ynys Wyth, a difyrru awr neu ddwy yn y pentref model ddiwrnod arall.

Os hanes yw’ch hoffter, mae’n werth gweld Tŷ Osborne, hen gartre’r Frenhines Fictoria ar yr ynys, a Chastell Carisbrooke lle y bu Siarl I yn garcharor yn ystod y Rhyfel Cartref.

Roedd cip ar y papur lleol yn bur ddadlennol hefyd. Roedd trafodaeth am gadw rhai tai ar gyfer pobl leol (swnio’n gyfarwydd?), gyda llythyr gan Sais o’r tir mawr yn dweud fod e’n hoff iawn o’r ynys a bod unrhyw gyfyngu o’r fath ar y farchnad dai’n annerbyniol (swnio’n gyfarwydd?). Mae hefyd ffrae mawr yn mynd ymlaen am gadw ysgolion bach yr ynys ar agor (cyfarwydd eto?).
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron