Caerdydd

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Caerdydd

Postiogan tywi » Sul 09 Medi 2007 2:50 pm

Helo. Yn newydd i Maes-e heddi.

Yn mynd i Gaerdydd am 3 noson. Ble is aros? Beth i wneud (heblaw y Ganolfan a'r bae, y castell ag ati sydd ar y rhestr yn barod)?

Ddim yn nabod y ddinas o gwbwl, felly angen gwybod am sut i fynd ar hyd y lle hefyd - sai'n gallu cerdded yn rhy dda.

Diolch.
tywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Sul 09 Medi 2007 1:32 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 09 Medi 2007 4:59 pm

Awgrymaf i ti aros mewn un o'r B&B's heol y Gadeirlan.

Beth am fynd fyny i Castell Coch ? Neu mynd am dro o gwmpas Caeau Llandaf, wedyn i Eglwys Llandaf cyn mynd am beint yn nhafarndai Llandaf.
Cofia'r Amgueddfa a Amgueddfa Werin St Ffagans.

Ti'n dod lawr yn y car neu tren ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Llun 10 Medi 2007 10:50 am

Dwi'n hoffi mynd ag ymwelwyr draw i'r Morglawdd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan tywi » Iau 13 Medi 2007 2:52 pm

Diolch am ateb.
Ni'n dod yn y car, felly angen rhywle i barcio.
Yn cofio am yr amgueddfeudd, ond ddim wedi meddwl am Llandaf a'r Morglawdd.
tywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Sul 09 Medi 2007 1:32 pm

Postiogan Dwlwen » Iau 13 Medi 2007 3:07 pm

Ma parcio'n bach o issue yma ar hyn o bryd gan bod nifer o'r meysydd parcio 'di cael 'u bwrw lawr i greu canolfan siopa anferth arall di-gymeriad di-angen...

Y bet gorau yw prynu llyfryn talebau parcio, sydd ar werth mewn siopau papur/ swyddfeydd post/ a'r amgueddfa yn ganol dre... Gyda'r talebau, ma modd i ti barcio mewn ardaloedd yng nghanol y ddinas am gyn-lleied a £1.20 am 5 awr (ma rhai ardaloedd yn fwy costus.) Manylion

Os wyt ti 'ma ar y Sul, ma'i werth ymweld â farchnad Glan-yr-Afon.
Ma'r bws-dwr i Benarth yn hwyl hefyd.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan tywi » Sul 16 Medi 2007 5:29 pm

Diolch am y gwybodaeth am y parcio. Gobeithio na fydd rhaid i mi defnyddio'r car a'r hyd y lle. Pa mor bell yw o ganol y dre (castell) i lawr i'r bae - ydy'n haws teithio ar y bws?
tywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Sul 09 Medi 2007 1:32 pm

Postiogan Dwlwen » Llun 17 Medi 2007 11:00 am

O'r castell i'r bae, ma'i tua milltir a hanner/ dwy filltir, os wyt ti'n teithio mewn car, ma 'na arwyddion brown weddol gyson i dy arwain di i'r bae.

Ma 'na wasanaeth bws (ond ma gwefan bws caerdydd yn hunllefus), neu alli di ddal tren (tua bob hanner awr) o orsaf Queen Street, sy'n eitha ddiffwdan.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan tywi » Iau 20 Medi 2007 2:33 pm

Diolch am yr help.
tywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Sul 09 Medi 2007 1:32 pm

Postiogan docito » Iau 20 Medi 2007 3:21 pm

Dwi wastad yn teimlo piti ar y mygs na sy'n neidio ar y bws heb dop ar stryd y castelll...................Dychmygwch cyrraedd caerdydd ar y tren neu bws.

WAW - edyrchwch.... y castell... cwl y stadiwm ... waw Ma rhaid i fi weld mwy o'r ddinas


oce.. croeso i'r daith o gwmpas caerdydd... dyma'r stadiwm a'r castell edrychwch.... stadiwm, castell.... stadiwm castell...... ymmm o ie... nesa da ni'n mynd a chi i'r bae

cwl be sy yn y y bae?

wel, chi'n gwbod Y BAE... Y BAE ma pawb yn hoffir bae.

ond be sy na?

yyyrrgh wel, nandos a .... O ie canolfan y mileniwm a'r senedd.

oce ie ma nhw eitha cwl. be nesa??

yyyrrgh. parc cathays :?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Lletwad Manaw » Sad 22 Medi 2007 5:03 am

Ti'n llygad dy le Docito.

Cyn i ti fynd ar y bws topless wrth gwrs ma rhaid i ti drio ymladd dy ffordd drwy, na sori dros, meddwon, chavs a smackheads y Brifddinas sy fel pla tu allan i'r orsaf drenau a bysus. Dychmygwch yr olygfa gynta mae ymwelydd newydd a'n prifddnas "Ewropeaidd" yn ei gael. Meddwon cegog a valley commandos yn hammered yn rhoi abiws i bobol.

Ond falle dyle'r bws topless fynd cam ymhellach a gwneud taith o amgylch siopau ail law/elusennol caerdydd. A gwneud taith benwythnos ohoni!

Fel wedodd ffrind i fi echddoe, oedd heb ymweld a Chaerdydd or blaen doedd hi erioed wedi gweld cymaint o siopau elusennol yn ei bywyd.
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron