Tudalen 1 o 2
Caerdydd
Postiwyd:
Sul 09 Medi 2007 2:50 pm
gan tywi
Helo. Yn newydd i Maes-e heddi.
Yn mynd i Gaerdydd am 3 noson. Ble is aros? Beth i wneud (heblaw y Ganolfan a'r bae, y castell ag ati sydd ar y rhestr yn barod)?
Ddim yn nabod y ddinas o gwbwl, felly angen gwybod am sut i fynd ar hyd y lle hefyd - sai'n gallu cerdded yn rhy dda.
Diolch.
Postiwyd:
Sul 09 Medi 2007 4:59 pm
gan Madrwyddygryf
Awgrymaf i ti aros mewn un o'r B&B's heol y Gadeirlan.
Beth am fynd fyny i Castell Coch ? Neu mynd am dro o gwmpas Caeau Llandaf, wedyn i Eglwys Llandaf cyn mynd am beint yn nhafarndai Llandaf.
Cofia'r Amgueddfa a Amgueddfa Werin St Ffagans.
Ti'n dod lawr yn y car neu tren ?
Postiwyd:
Llun 10 Medi 2007 10:50 am
gan Rhys
Dwi'n hoffi mynd ag ymwelwyr draw i'r
Morglawdd
Postiwyd:
Iau 13 Medi 2007 2:52 pm
gan tywi
Diolch am ateb.
Ni'n dod yn y car, felly angen rhywle i barcio.
Yn cofio am yr amgueddfeudd, ond ddim wedi meddwl am Llandaf a'r Morglawdd.
Postiwyd:
Iau 13 Medi 2007 3:07 pm
gan Dwlwen
Ma parcio'n bach o
issue yma ar hyn o bryd gan bod nifer o'r meysydd parcio 'di cael 'u bwrw lawr i greu canolfan siopa anferth
arall di-gymeriad di-angen...
Y bet gorau yw prynu llyfryn talebau parcio, sydd ar werth mewn siopau papur/ swyddfeydd post/ a'r amgueddfa yn ganol dre... Gyda'r talebau, ma modd i ti barcio mewn ardaloedd yng nghanol y ddinas am gyn-lleied a £1.20 am 5 awr (ma rhai ardaloedd yn fwy costus.)
Manylion
Os wyt ti 'ma ar y Sul, ma'i werth ymweld â
farchnad Glan-yr-Afon.
Ma'r
bws-dwr i Benarth yn hwyl hefyd.
Postiwyd:
Sul 16 Medi 2007 5:29 pm
gan tywi
Diolch am y gwybodaeth am y parcio. Gobeithio na fydd rhaid i mi defnyddio'r car a'r hyd y lle. Pa mor bell yw o ganol y dre (castell) i lawr i'r bae - ydy'n haws teithio ar y bws?
Postiwyd:
Llun 17 Medi 2007 11:00 am
gan Dwlwen
O'r castell i'r bae, ma'i tua milltir a hanner/ dwy filltir, os wyt ti'n teithio mewn car, ma 'na arwyddion brown weddol gyson i dy arwain di i'r bae.
Ma 'na wasanaeth bws (
ond ma gwefan bws caerdydd yn hunllefus), neu alli di ddal tren (
tua bob hanner awr) o orsaf Queen Street, sy'n eitha ddiffwdan.
Postiwyd:
Iau 20 Medi 2007 2:33 pm
gan tywi
Diolch am yr help.
Postiwyd:
Iau 20 Medi 2007 3:21 pm
gan docito
Dwi wastad yn teimlo piti ar y mygs na sy'n neidio ar y bws heb dop ar stryd y castelll...................Dychmygwch cyrraedd caerdydd ar y tren neu bws.
WAW - edyrchwch.... y castell... cwl y stadiwm ... waw Ma rhaid i fi weld mwy o'r ddinas
oce.. croeso i'r daith o gwmpas caerdydd... dyma'r stadiwm a'r castell edrychwch.... stadiwm, castell.... stadiwm castell...... ymmm o ie... nesa da ni'n mynd a chi i'r bae
cwl be sy yn y y bae?
wel, chi'n gwbod Y BAE... Y BAE ma pawb yn hoffir bae.
ond be sy na?
yyyrrgh wel, nandos a .... O ie canolfan y mileniwm a'r senedd.
oce ie ma nhw eitha cwl. be nesa??
yyyrrgh. parc cathays
Postiwyd:
Sad 22 Medi 2007 5:03 am
gan Lletwad Manaw
Ti'n llygad dy le Docito.
Cyn i ti fynd ar y bws topless wrth gwrs ma rhaid i ti drio ymladd dy ffordd drwy, na sori dros, meddwon, chavs a smackheads y Brifddinas sy fel pla tu allan i'r orsaf drenau a bysus. Dychmygwch yr olygfa gynta mae ymwelydd newydd a'n prifddnas "Ewropeaidd" yn ei gael. Meddwon cegog a valley commandos yn hammered yn rhoi abiws i bobol.
Ond falle dyle'r bws topless fynd cam ymhellach a gwneud taith o amgylch siopau ail law/elusennol caerdydd. A gwneud taith benwythnos ohoni!
Fel wedodd ffrind i fi echddoe, oedd heb ymweld a Chaerdydd or blaen doedd hi erioed wedi gweld cymaint o siopau elusennol yn ei bywyd.