Lle i aros/bwyta yn ardal Tresaith
Postiwyd:
Maw 18 Medi 2007 2:27 pm
gan Rhys
Meddwl treulio noson neu ddwy ar y Costa del Ceredigion. Yn ystyried aros yng
Ngwesty'r Harbwr (Aberaeron) neu'r
Glandŵr. Heblaw am fwyty Gwesty'r Harbwr, oes na lefydd da eraill i fwyta yn lleol (ac yn addas i lysiewr) dylwn i ystyried?
Diolch
Re: Lle i aros/bwyta yn ardal Tresaith
Postiwyd:
Maw 18 Medi 2007 3:56 pm
gan Rhys
Diolch, mi oeddwn yn ymwybodol amdanynt, ond gan mai ar gyfer mis mêl bach ydi o, roeddwn yn meddwl byddai'n neis rhoi hoe i'r wraig newydd rhag gorfod cogino
Postiwyd:
Mer 19 Medi 2007 1:25 pm
gan khmer hun
Bwyd y Ship yn Nhresaith yn dra blasus, a'r waiter o Gaerdydd yn wledd i'r llygad (falle'n dodgy os chi ar fis mêl).