Tudalen 1 o 1

Bilbao

PostioPostiwyd: Mer 26 Medi 2007 3:45 pm
gan Wil wal waliog
Angen hostel da ar gyfer un noson (noson ola'r trip) yn Bilbao, achos ni'n hedfan nôl o fan 'ny y bore tranoeth. Unrhyw dips?

PostioPostiwyd: Mer 26 Medi 2007 3:48 pm
gan Jaff-Bach
Dim yn shwr am hostels, ond os tin mynd i Bilbaeo, ma RHAID ichdi fynd am dro lawr yr afon i weld y Guggenheim, fusi yna tachwedd dwytha a mae o yn spectaciwlar.

Bendant yn werth ei weld.

PostioPostiwyd: Mer 26 Medi 2007 4:29 pm
gan Geraint
Mae'n dibynnu faint o gwsg ti'n bwriadu cael. Os di cwsg ddim yn bwysig, mi fasw ni'n aros yn yr hen dref, o fewn y 'saith stryd', fel fod o ddim yn bell i sdagro adre ar ol monsdar o sesh efo basgwyr nyts yn bars y Casco Viejo.

PostioPostiwyd: Iau 27 Medi 2007 11:01 am
gan Glewlwyd Gafaelfawr
Jaff-Bach a ddywedodd:Dim yn shwr am hostels, ond os tin mynd i Bilbaeo, ma RHAID ichdi fynd am dro lawr yr afon i weld y Guggenheim, fusi yna tachwedd dwytha a mae o yn spectaciwlar.

Bendant yn werth ei weld.


Mae'n werth weld y Guggenheim o'r tu fas, ond roeddwn i'n meddwl bod y pris mynediad yn wastraff arian i weld y cach sydd y tu mewn.

O ran llety, dwi wedi aros yn y Hostel Begona http://www.actioturis.com// sydd dros yr afon o'r hen dref, ac yn Hotel Sirimiri http://www.hotelsirimiri.com/ sydd ychydig yn rhatach, ond cystal, onid gwell na'r lle arall.
Mae digonedd o lefydd i aros yn Bilbao, cofiwch fynd i'r San Mames, cartref Athletic Club Bilbao, hyd yn oed os nad oes gem mlaen, mae'n bosib mynd am daith o amgylch y stadiwm (y stadiwm pêl-droed hynaf yn Sbaen) a'r amgueddfa.
Dwi'n dwli ar Bilbao! Dere â photel o Patxaran nol i fi plis :winc:

PostioPostiwyd: Iau 27 Medi 2007 5:45 pm
gan Jaff-Bach
Glewlwyd Gafaelfawr a ddywedodd:Mae'n werth weld y Guggenheim o'r tu fas, ond roeddwn i'n meddwl bod y pris mynediad yn wastraff arian i weld y cach sydd y tu mewn.


aii dyna onin olygu, pensaerniaeth ffantastig, frank gehry yn dwd.

PostioPostiwyd: Iau 27 Medi 2007 10:23 pm
gan Wil wal waliog
Wel, diolch yn fawr i chi gyd. Mynd fory, a ffili aros. . . :gwyrdd: O ie, Mr Gwyrdd!

PostioPostiwyd: Iau 27 Medi 2007 10:23 pm
gan Wil wal waliog
Wel, diolch yn fawr i chi gyd. Mynd fory, a ffili aros. . . :gwyrdd: O ie, Mr Gwyrdd!