Tudalen 1 o 1

Frankfurt

PostioPostiwyd: Llun 01 Hyd 2007 12:52 pm
gan Madrwyddygryf
Os na rhwyun erioed wedi bod yn Frankfurt ? Dwi’n mynd yna i weld Cymru yn chwarae Almaen (ac yn colli dwi’n sicr). Unrhyw argymhellion am westai? tafarndai? pethau o werth ei weld ayb.

PostioPostiwyd: Llun 01 Hyd 2007 2:25 pm
gan Dwlwen
Dim argymhellion o ran y ddinas 'i hun sori (jyst pasio trw' o'n i), ond fe allai argymell teithio yno ar dren! Gymron ni'r eurostar o Lundain i Frwsel, yna'r ICE o Frwsel i Frankfurt (Die Bahn sy'n rhdeg hwnnw.) Me'n cymryd tua 7 awr o Lundain i Frwsel - a ma'r tren (o Frwsel 'mlaen, yn enwedig) yn gyffyrddus iawn, a'n hynod effeithlon :D

PostioPostiwyd: Maw 02 Hyd 2007 10:09 pm
gan Carlos Tevez
Dwi wedi cael ticed o Birmingham i Frankfurt am £85 i weld y gem Almaen v Cymru yn mis tachwedd...rhad iawn, sori ddim digon o amser i ymarfer fy credenshals gwyrdd....wedi cael gwesty am tua 20 punt y noson

Yn edrych fel lle iawn, cyn belled bydd cwpl o dafarndai... ac y red light district mwyaf yn yr almaen 8) yn ol gwefan wikipedia

PostioPostiwyd: Maw 02 Hyd 2007 10:55 pm
gan Madrwyddygryf
Dwlwen a ddywedodd:Dim argymhellion o ran y ddinas 'i hun sori (jyst pasio trw' o'n i), ond fe allai argymell teithio yno ar dren! Gymron ni'r eurostar o Lundain i Frwsel, yna'r ICE o Frwsel i Frankfurt (Die Bahn sy'n rhdeg hwnnw.) Me'n cymryd tua 7 awr o Lundain i Frwsel - a ma'r tren (o Frwsel 'mlaen, yn enwedig) yn gyffyrddus iawn, a'n hynod effeithlon :D


Diolch Dwlwen. Wel roeddwn wedi cysidro mynd yna ar dren o Gaerdydd i Frankfurt ond buaswn wedi gwario tua 12 ar dren, ac dim ond am deuddydd byddwn yn Frankfurt. Felly dwi wedi prynu tocyn awyren yn lle. :rolio: