Tudalen 1 o 2

Lonely Planet v Rough Guide

PostioPostiwyd: Gwe 02 Tach 2007 11:29 am
gan Wilfred
Pa un di'r gora neu pa un yda chi yn ei ddefnyddio?

PostioPostiwyd: Gwe 02 Tach 2007 11:59 am
gan joni
Lonely Planet bob tro. Sai di dod ar draws mwy cynhwysfawr, sydd hefyd yn glir ac yn gryno. Ma nhw'n ideal pan ti ar gornel stryd mewn dinas diethr heb syniad ble i fynd.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Tach 2007 12:20 pm
gan Mr Gasyth
Cytuno efo Joni - Lonely Planet bob tro.

Dwi wir methu dallt sut fod Rough Guides yn dal mewn busnes.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Tach 2007 12:27 pm
gan Wilfred
Lonely Planet dwi wedi ddefnyddio bob tro. Di bod i ty ffrind neithiwr a gweld llwyth o lyfra Rough Guides ar i silff a meddwl os o ni'n genud peth gwirion yn defnyddio Lonely Planet bob tro.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Tach 2007 12:34 pm
gan Jeni Wine
Ma Lonely Planet yn well os ti'n sgint (o ran rhestru hostels a ballu), ond mae Rough Guide yn well am wybodaeth mwy cynhwysfawr dwi'n meddwl.

Mae Lonely Planet yn llwyddo i fethu rhai llefydd/attractions anhygoel weithia. Rough Guide fydd ai'n iwsio gan amla. Cofio cael gwybodaeth anghywir mewn sawl Lonely Planet hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 06 Rhag 2007 8:38 pm
gan dewi_o
Mae well gen i ddarllen Rough Guide fy hyn. Fwy o wybodaeth am lefydd diddorol. Am ddinasaoedd arbennig e.e Brugge mae gan Cadogan Llyfrau Teithio da hefyd.

PostioPostiwyd: Gwe 07 Rhag 2007 4:38 pm
gan docito
Dos na ddim amheuaeth ma Lonely Planet sy'n gweithio gore fel travel guide - hy - i ddweud beth sydd i weld a sut i weld e....

Ond yn fy mhorfiade hi ma gwybodaeth Lonely Planet yn uffernol. Ma'n amlwg ma 'teithwyr' nid 'geeks' sy'n sgwennu.

Os i chi eisiau llyfr sydd yn rhoi y gwybodaeth cywir. Hy cyfeiriade, prisiau ayb yna FOOTPRINTS yw'r boi

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 2:46 pm
gan Y Crochenydd
Mae Lonely Planet yn hawdd iawn i ddefnyddio a dyma'r un fyddai'n mynd gyda fi fel arfer. O'n i'n arfer bod yn ffan masif o Rough Guide ac er eu bod yn llawn gwybodaith werthfawr am hanes, diwilliant ayb, sdim llunie, felly, dwi'n ffeindio nhw'n well am bach o ymchwil cyn mynd.

Hefyd, dwi'n hoff iawn o Time Out City Guides a llyfrau Eyewitness. Unhryw un arall yn defnyddio rhain?

PostioPostiwyd: Llun 14 Ion 2008 9:56 pm
gan huwwaters
Y Crochenydd a ddywedodd:Hefyd, dwi'n hoff iawn o Time Out City Guides a llyfrau Eyewitness. Unhryw un arall yn defnyddio rhain?


Oeddwn i am awgrymu rhein hefyd yn ogsytal a Dorling Kindersly sydd ddim yn rhestru llefydd i aros/fwyta etc ond mwy o wybodaeth cyffredinol gyda trivia diddorol iawn. Ma'r cylchgrawn dylunio Wallpaper wedi cyhoeddi city gudies sydd yn canolbwyntio mwy ar y nodwedd dyluniadol a lliwgar o bethe na rhai hanesyddol. http://www.phaidon.com/travel/

PostioPostiwyd: Mer 16 Ion 2008 12:28 pm
gan eusebio
Lonely Planet i mi pob tro ond mae DK yn reit dda hefyd ...