gan Gowpi » Llun 07 Ion 2008 10:48 am
Swnio'n wych. Off y pwynt tamed bach (ond ymwneud a'r ochr ieithyddol Gymreig / Asiaidd) fues i'n treulio pythefnos yng Nghambodia rhai blynyddoedd yn ol, es i dalaith Mondulkiri yn y dwyrain ac aros mewn ty gorffwys Madame Deu.
Fe wnes i drefnu mynd ar daith beic modur gyda'i mab, aeth a fi i ymweld ag un o bentrefi brodorol yr ardal a ymdebygai i Ddinas Henllys yn sir Benfro. Ces wahoddiad i fewn un o'r tai a ceisiwyd fy nysgu i ddweud ambell i air yn eu hiaith (nid Khmer) wrth bwyntio at anifeiliaid - mochyn oedd 'tsor' ac ati, pwyntiwyd at iar a dywedwyd taw 'iar' ydoedd yn eu hiaith hwythau!!!!!!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.