Enwau Cymraeg ar awledydd De ddwyrain Asia
Postiwyd: Sul 06 Ion 2008 3:34 pm
Dim bod fi moen swnio'n smyg, ond dwi di bod yn dianc yr oerfel dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd trwy fynd am antur bach i Thailand a Cambodia (dwi yn Bangkok reit nawr yn teipio hwn, gyda llaw ). Ond oes rhywyn yn gallu rhoi'r enwau Cymraeg cywir i mi am y gwledydd yma? Mae'r pobol Khmer yn Cambodia yn galw Kampuchea ar eu gwlad ac hen enw Thailand yw Siam. Eniwe, mae'n amazing yma. Ac yn rhyfeddol o gynnes. Mynd am swim fach yn y pwll ar to'r gwesty bore fory