Tudalen 1 o 1

Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 12:59 pm
gan nicdafis
Eith y Ddoctor Dda a finne i'r Werddon yn y haf, i ddathlu 10 mlynedd gyda'n gilydd. :ofn:

Meddwl am fynd i ddinas Corc, ond efallai byddai'n well aros rhywle tu allan i'r ddinas ei hunan. Oes unrhyw awgrymiadau? Dw i ddim yn nabod yr ardal o gwbl; dim ond unwaith dw i wedi bod i Iwerddon, ac i Gonnach aethon y tro 'na.

Diolch yn fawr ymlaen llaw.

Re: Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 1:03 pm
gan S.W.
Dinas neis, oedden nhw wrthi'n 'upgradio'r system carthffosiaeth pan oeddwn i yno ar fy stag do felly oedd ne hoglau diddorol iawn yno, ond adeiladau neis, pobl neis (prin yn gallu eu deallt), tafarndai bywiog ayyb. Mewn travelodge naethon ni aros, dwi'm cymryd na fyddai hwnnw'n cyrraedd di safonau di?

Re: Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau

PostioPostiwyd: Iau 24 Ion 2008 1:06 pm
gan Rhys Llwyd
Se ti'n gallu rhannu dy wyliau rhwng chydig ddiwrnodau yn ninas Corc ac yna rhai diwrnodau draw yn y gorllewin gwyllt.

Re: Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 11:00 am
gan Cynyr
Os chi'n mynd yn y 'Swpar-Micra' yna ma Dungarvan yn le neis i aros ar y ffordd. Tref porthladd tebyg i Aberaeron, (ond yn fwy ag heb snobs!!)
Ma Corc yn ddinas braf iawn. Fydd hi werth ymweld ar de o'r ddinas, tua 30-40 km i'r arfordir ma Oysterhaven, Kinsale a Old Head.

10 mlynedd eh? siwr bo shi'n cwalefeio i fynd ar 'Sion a Sian' Nawr :winc:

Re: Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 7:12 pm
gan anffodus
Cynyr a ddywedodd:Os chi'n mynd yn y 'Swpar-Micra' yna ma Dungarvan yn le neis i aros ar y ffordd. Tref porthladd tebyg i Aberaeron, (ond yn fwy ag heb snobs!!)


Ategaf. Nes i aros 'na Pasg dwytha ag o'dd o'n le braf iawn. A'r ardal o gwmpas yn neis hefyd.

Re: Meddwl am fynd i Gorc - awgrymiadau?

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 9:48 pm
gan nicdafis
Diolch am yr awgrymiadau, bois.