Nagi, dim yr wyau, ond rant sgin i am feicia modur traws gwlad dwi'n gweld sy'n uffar o boen yn ein cefn gwlâd. Ma'n broblem sy' 'di bod yn mynd ymlaen am oesedd, ond amlygwyd o i mi ddoe, wrth wneud cylchdaith y Cnicht a'r Moelwyn o Groesor. Diwrnod ffantastig chwara teg - braf a thawal. Ond, penderfynnodd ryw 3 beic modur ruo a rhwygo 'i ffordd fynu o Flaena, drw Bwlch Cwmorthin ac i fynu i Allt y Ceffylau. Ac ro'dd i rhycha dyfn nw 'i gweld yn frith dros Cnicht 'fyd. Wedyn mlaen i Foelwyn Mawr a Bach, a'r sgramblers yn penderfynu 'i dilyn ni i fynu i gopa Moelwyn Mawr a thorri ar y tawelwch llethol 'na unwaith eto.
Dwi'n dallt nag oes digon o lefydd iddyn nhw fynd i feicio ond plis cadwch i ffwrdd o'r Parc Cenedlaethol. A hefyd, ma'n anghyfreithlon. A be sy'n mynd dan y ngroen i fwy na dim 'di dy nhw ddim yn gosod rhif cofrestru ar 'i beicia nhw (amlwg ddim), ac yn g'neud hi'n anodd iawn i'w dal nhw.
Rhywun arall yn cytuno a fi, neu ydw i'n ryw whingar "ma'n anghyfreithlon" ?