'Sgramblers'

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

'Sgramblers'

Postiogan ger4llt » Sul 17 Chw 2008 10:07 pm

Nagi, dim yr wyau, ond rant sgin i am feicia modur traws gwlad dwi'n gweld sy'n uffar o boen yn ein cefn gwlâd. Ma'n broblem sy' 'di bod yn mynd ymlaen am oesedd, ond amlygwyd o i mi ddoe, wrth wneud cylchdaith y Cnicht a'r Moelwyn o Groesor. Diwrnod ffantastig chwara teg - braf a thawal. Ond, penderfynnodd ryw 3 beic modur ruo a rhwygo 'i ffordd fynu o Flaena, drw Bwlch Cwmorthin ac i fynu i Allt y Ceffylau. :x Ac ro'dd i rhycha dyfn nw 'i gweld yn frith dros Cnicht 'fyd. Wedyn mlaen i Foelwyn Mawr a Bach, a'r sgramblers yn penderfynu 'i dilyn ni i fynu i gopa Moelwyn Mawr a thorri ar y tawelwch llethol 'na unwaith eto. :drwg:

Dwi'n dallt nag oes digon o lefydd iddyn nhw fynd i feicio ond plis cadwch i ffwrdd o'r Parc Cenedlaethol. :ing: A hefyd, ma'n anghyfreithlon. A be sy'n mynd dan y ngroen i fwy na dim 'di dy nhw ddim yn gosod rhif cofrestru ar 'i beicia nhw (amlwg ddim), ac yn g'neud hi'n anodd iawn i'w dal nhw.

Rhywun arall yn cytuno a fi, neu ydw i'n ryw whingar "ma'n anghyfreithlon" :winc: ?
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: 'Sgramblers'

Postiogan Meg » Sul 17 Chw 2008 11:15 pm

Cytuno efo ti i'r carn! Y tro dwytha es i fyny ffor'na, blydi beics yno bryd hynny hefyd!
Banio nhw - bendant.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Re: 'Sgramblers'

Postiogan ger4llt » Llun 18 Chw 2008 11:52 am

Meg a ddywedodd:Banio nhw - bendant.


Cytuno. Amlwg mai dyna fuasai'r ffordd ora i fynd o amgylch y broblam - ond dydi o ddim yn edrych fel bod y cyngor/pwy bynnag sydd yn gyfrifol am reolaeth yn gwneud llawer i rwystro'r broblem. Y llun yma er enghraifft - dynnish i echddoe wan:

Rhosydd.jpg
Rhosydd.jpg (69.89 KiB) Dangoswyd 1645 o weithiau


Iawn, o'r chwith i'r dde: ffens, adfail, giât â chlo cryf, camfa, a ramp - yn amlwg wedi cael ei osod gan feicwyr ar gyfer eu defnydd hwy, ac wedi dechra' rhydu i fod yn onasd - amlwg ei fod wedi bod yna am amser gymharol hir. Ac yn fwy na dim - bod neb wedi mynd i draffarth i gal gwarad ohono. :drwg:

Dwi'n dalld y bydd o'n uffar o job anodd i gal offer trwm i fanna - ond ma'n amlwg bod rhywun 'di gario fo fynu yn y lle cynta felly 'dydi?
'Sa'n haws jysd gadal y giat ar agor bysa! :winc:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai