Cerdded/Heicio yn Eryri

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 26 Chw 2008 4:07 pm

Ers symud i Fangor dwi wedi bod yn eiddgar i neud dipyn o gerdded, a nawr bod y tywydd yn gwella maen bryd i mi darro'r llethrau. Dwi am ddechrau gyda rhai llai uchelgeisiol am ddau reswm 1. tydw i ddim yn ffit a 2. dydy'r tywydd ddim yn canitau dim byd rhy uchelgeisiol y pen yma o'r Pasg.

Fe es i allan am y tro cyntaf i gerdded yng Nghwm Idwal gyda'r gobaith o ddringo llethrau'r Cwm ac yna ymlaen dros y top i Lyn y Cwn ond oherwydd yr holl ia nid oedd modd mynd dros dop y cwm at Lyn y Cwn, felly bydd rhaid dychwelyd fan yna rhywbryd eto.

Penwythnos yma roeddw ni wedi meddwl dringo Tryfan - unrhyw dips? Lle i ddechrau? Ydy e'n addas i wneud hyd yn oed os nad ydy hi'n heulog?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Mr Gasyth » Maw 26 Chw 2008 4:24 pm

Tydw i erioed wedi dringo Tryfan, ond dwi'n meddwl mdo i'n iawn i ddweud ei fod yr unig fynydd yng Nghymru nad oes posib ei ddringo ar ddwy droed yn unig (h.y mae'n rhaid sgramblo ar ryw bwynt). Felly ddim yr hawsa i ddechrau arno.

Buaswn i'n awgrymu mynd fyny yr Eifyl - ddim rhy anodd, golygfa hyfryd, a Tre'r Ceiri yn bonws.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan sian » Maw 26 Chw 2008 4:31 pm

Mr Gasyth a ddywedodd: golygfa hyfryd
o Drefor!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 26 Chw 2008 4:44 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Tydw i erioed wedi dringo Tryfan, ond dwi'n meddwl mdo i'n iawn i ddweud ei fod yr unig fynydd yng Nghymru nad oes posib ei ddringo ar ddwy droed yn unig (h.y mae'n rhaid sgramblo ar ryw bwynt). Felly ddim yr hawsa i ddechrau arno.

Buaswn i'n awgrymu mynd fyny yr Eifyl - ddim rhy anodd, golygfa hyfryd, a Tre'r Ceiri yn bonws.


Diolch am y tip am Tryfan. Dwi ddim yn meddwl ai draw i'r Eifl fodd bynnag (dim byd yn dy erbyn di Sian!) ond dwi eisiau medru cyraedd dechrau'r daith o fewn hanner awr o yrru i Fangor yn ddelfrydol. Ar ol darllen o amgylch ac os bydd hi'n ddiwrnod sych dwi am roi siot ar Tryfan gan gychwyn ym Mwthyn Idwal, os eith hi'n dwll arnai fedrai wastad droi nol cyn cyraedd y rhan 'sgramblo'.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan jammyjames60 » Maw 26 Chw 2008 5:14 pm

'di Tryfan 'im hannar bad er bo' chdi goro' sgramblo fyny fo tuag at y copa. Mae'n fwy diddorol sgramblo na jyst cerad i fyny mynydd a mae'n dda cael neidio Adda ac Efa ar gopa'r fynydd.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan ger4llt » Maw 26 Chw 2008 5:29 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Penwythnos yma roeddw ni wedi meddwl dringo Tryfan - unrhyw dips? Lle i ddechrau? Ydy e'n addas i wneud hyd yn oed os nad ydy hi'n heulog?


Dwi wedi dringo Tryfan sawl gwaith, a allai gadarnhau be 'ma Mr Gasyth a jammyjames60 yn ddeud bod angen dipyn o sgrabl i ddringo'r mynydd. Os fues ti fynu i Gwm Idwal ynghynt, mae Tryfan yn dipyn mwy o waith caled. Os wyt ti am fentro, y ffordd hawsaf a mwyaf diogel yw dringo fynu'r wyneb ogleddol h.y. parcio yn un o'r maesydd parcio ar ochr y ffordd, ar lannau Llyn Ogwen. Ma'r cerdded yn rhwydd i gychwyn, ond mae'n llawer mwy o sgrambl wrth i ti ei esgyn, a chyrraedd y copa.

Y llwybr gyflymaf i ddisgyn wedyn yw drwy gerdded i'r de am ychydig, a ryw hanner sgrambl i'r gorllewin lawr rhan o sgri, a wedyn ma diwedd y daith yn eitha rwydd i orffen, gan ddychwelyd i'r maes parcio. (Ma'n bosibl disgyn i Fwlch Tryfan gyntaf os lici di - llwybr haws, ond yn cymeryd chdyig mwy o amser.)

Wrth gwrs, mae'r Glyderau yn opsiwn arall yn yr ardal, dim gymaint o sgrambl â Thryfan, a cherdded hawdd ar y copaon. Unwaith eto, ma' sawl ffordd i'w ddringo - drwy Fwlch Tryfan a dringo Bristly Ridge (cymharol anodd) i Gopa Glyder Fach, neu gallwch ddringo'r Gribin a picio i fynu i Gopa Glyder Fach o fan'na. Ar draws i Glyder Fawr wedyn, heibio sgri Lyn y Cwn drwy Dwll Du (gall fod yn beryglus a llithrig yn y gaeaf), a dychwelyd i Lyn Ogwen drwy'r cwm.

Digon o ddewis yn y Gogledd Orllewin 'ma! Gobeithio mod i rywfaint o help... :winc:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan jammyjames60 » Maw 26 Chw 2008 6:31 pm

'sa enw Cymraeg ar Bristly Ridge? 'Dwi 'rioed 'di galw fo yn y Saesneg ond pan 'dwi'n dwad a pobol o Loegr i ddringo'r mynydd mae nhw'n bob tro'n gofyn imi pam nad oes unrhyw enw cyfateb yn y Gymraeg. Unrhyw gynnigion?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan osian » Maw 26 Chw 2008 10:03 pm

Grib ddaneddog (oes na h yn y gair yn rwla?).
Mai'n bosib osgoi honno dydi, ma na sgri i fyny wrth ei hymyl, aeth fy chwaer fach 10 oed i fyny'n iawn.
Oedd tryfan yn edrych yn weddol hawdd (gair twp i ddefnyddio dwi'n gwbod) o dop y bwlch, ydio'n anoddach na mae'n edrach?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan jammyjames60 » Mer 27 Chw 2008 4:45 pm

osian a ddywedodd:Grib ddaneddog (oes na h yn y gair yn rwla?).


Hynny ydy, brws gwallt efo danadd [Toothy Comb]?
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan ger4llt » Mer 27 Chw 2008 5:33 pm

jammyjames60 a ddywedodd:
osian a ddywedodd:Grib ddaneddog (oes na h yn y gair yn rwla?).


Hynny ydy, brws gwallt efo danadd [Toothy Comb]?


Does dim gair Cymraeg am Bristly Ridge. Yn sicr. "Toothy Ridge"...dwi'm yn meddwl rywsut! :lol:

Ma'n amlwg mai'r dringwyr cynta cefnog o Loegr a roddodd enw i'r grib yn y lle cynta' - cyn i ni gal cyfla' neud hynna. :winc:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron