Rhys Llwyd a ddywedodd:y nionyn a ddywedodd:Yn union, fel rhiant, dwi methu coelio bod rhieni yn rhoi eu plant mewn peryg!
Cofia di, dwi'n meddwl fod peth bai ar y diwydiant 'twristiaeth' am boblogeiddio ardaloedd/llwybrau/mynyddoedd sydd mewn gwirionedd angen aros yn arbennigol ac nid yn boblogaidd. Er enghraifft roedd y dringiad fyny llethrau Cwm Idwal, trwy'r Twll Du ac allan i Lyn y Cwn yn daith oedd mewn llyfr '50 Walks in Snowdonia' - y llyfr yna oedd y teulu welesi yn ei ddilyn ac fel maen digwydd roedd copi gyda mi adre ac nid oedd unrhyw son yn y llyfr bod y llwybr yn beryglus yn ystod y Gaeaf - mi roedd disclamer cyffredinol ar ddiwedd y llyfr ond dylai llyfrau o'r fath roi rhybudd wrth pob taith mai dim ond yn ystod misoedd yr haf ar ddiwrnod clir y dylid mynd a teulu fyny etc....
Cytuno'n llwyr efo be ti'n ddeud, ond hyd yn oed mewn tywydd braf yn yr haf ma angen yr offer/dillad pwrpasol yn fy marn i. Paid anghofio neud y naid fory ar gopa Tryfan!!