y nionyn a ddywedodd:...dechrau wrth ochr Llyn Ogwen, wedyn y 'North Ridge' i fyny Tryfan hefo llunia sydyn ar y 'Cannon' ac Adda ac Efa! Lawr wedyn tuag at Bwlch Tryfan ac yna fyny 'Bristly Ridge' tuag at gopa Glyder Fach, gyda llun bach eto ar y 'Cantilever', yna pasio Castell y Gwynt ac ymlaen i Glyder Fawr, cyn cychwyn lawr am Pen Y Pass lle gafo ni banad bach a bechdan! Ymlaen wedyn am Grib Goch, dipyn o hwyl a sbri yn y gwynt! Yna Carnedd Ugain cyn gorffen ar Gopa'r Wyddfa, lawr llwybr Rhyd Ddu wedyn a peint bach haeddiannol yn y Cwellyn Arms (tafarn druta Gogledd Cymru heb os). Diwrnod da, mae'n rhaid dweud.
Rhys Llwyd a ddywedodd:y nionyn a ddywedodd:...dechrau wrth ochr Llyn Ogwen, wedyn y 'North Ridge' i fyny Tryfan hefo llunia sydyn ar y 'Cannon' ac Adda ac Efa! Lawr wedyn tuag at Bwlch Tryfan ac yna fyny 'Bristly Ridge' tuag at gopa Glyder Fach, gyda llun bach eto ar y 'Cantilever', yna pasio Castell y Gwynt ac ymlaen i Glyder Fawr, cyn cychwyn lawr am Pen Y Pass lle gafo ni banad bach a bechdan! Ymlaen wedyn am Grib Goch, dipyn o hwyl a sbri yn y gwynt! Yna Carnedd Ugain cyn gorffen ar Gopa'r Wyddfa, lawr llwybr Rhyd Ddu wedyn a peint bach haeddiannol yn y Cwellyn Arms (tafarn druta Gogledd Cymru heb os). Diwrnod da, mae'n rhaid dweud.
Mewn diwrnod?
y nionyn a ddywedodd:Di'r tywydd ddim yn gret dydd sad chwaith yn ol y rhagolygon, http://www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mo ... donia.html
Well pacio'r Goretex dwi'n meddwl!!!
Rhys Llwyd a ddywedodd:Fel arbennigwr wyt ti'n meddwl mod i'n ddoeth i drio Tryfan ddydd Sadwrn. Pa offer ddyliwn wisgo? A fydd sgidiau cerdded, trowser a chot dal dwr yn ddigon?
y nionyn a ddywedodd:Fyddai'n dychryn weithia pan fyddai'n gweld pobl (ddim gymaint pobl lleol) yn cerdded mynyddoedd Eryri, wedi'w gwisgo fel eu bod yn mynd i Tesco i siopa, a tydi damweinia/marwolaethau ddim i weld yn dysgu pobl chwaith.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Yn hollol, pan o ni yn dring fyny i'r Twll Du wythnos diwetha a rhew trwchus o'm cwmpas ro ni'n ei chael hi'n dipyn o strygal a hynny gyda sgidia cerdded addas. Wedyn dyma fi yn dod ar draws teulu o Loegr (hanner tymor ysgol oedd hi ma rhaid) yn gwisgo fel tasw nhw'n mynd i siopa a'r plant yn rhedeg rownd lle yn wyllt er bod rhew tew ar sawl rhan o'r llwybr. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn, dyna man siwr ddaru dwyllo pobl i ddod allan heb ddillad addas.
y nionyn a ddywedodd:Yn union, fel rhiant, dwi methu coelio bod rhieni yn rhoi eu plant mewn peryg!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai