Cerdded/Heicio yn Eryri

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 27 Chw 2008 5:42 pm

O ddarllen rownd ar y we dwi'n meddwl fyddai'n oce i roi siot ar Tryfan so long as bod dim tywydd mawr. Oes gyda chi unrhyw awgrymiadau eraill yn yr ardal?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 27 Chw 2008 5:54 pm

Dyma hanes fy nhaith cyntaf gyda llaw ar ffurf guide i rywyn arall ddilyn - mae map yno yn ogystal :D
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan y nionyn » Iau 28 Chw 2008 9:30 am

Fyddai'n neud dipyn o'r busnas cerdded a dringo ma wan ers dipyn. Y dydd gora dwi di gael yn Eryri hyd yn hyn ydi dechrau wrth ochr Llyn Ogwen, wedyn y 'North Ridge' i fyny Tryfan hefo llunia sydyn ar y 'Cannon' ac Adda ac Efa! Lawr wedyn tuag at Bwlch Tryfan ac yna fyny 'Bristly Ridge' tuag at gopa Glyder Fach, gyda llun bach eto ar y 'Cantilever', yna pasio Castell y Gwynt ac ymlaen i Glyder Fawr, cyn cychwyn lawr am Pen Y Pass lle gafo ni banad bach a bechdan! Ymlaen wedyn am Grib Goch, dipyn o hwyl a sbri yn y gwynt! Yna Carnedd Ugain cyn gorffen ar Gopa'r Wyddfa, lawr llwybr Rhyd Ddu wedyn a peint bach haeddiannol yn y Cwellyn Arms (tafarn druta Gogledd Cymru heb os). Diwrnod da, mae'n rhaid dweud.
Mi es i'r Alban, aros yn Fort William, ryw bythefnos yn ol am wsos, chydig bach o 'winter training', rhaid cyfaddef bod maint y lle i gymharu ag Eryri yn syfrdanol, uchafbwynt yr wsos i mi oedd dringo'r 'Summit Gully' ar Stob Coire nam Beith sydd yn 450 metr, a'r mynydd i hyn yn 1107 metr, gwaith caled efo 'ice axe' a 'crampons'!! Ond fel sa'r hwntws yn ddeud, joio mas draw!
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 28 Chw 2008 11:33 am

y nionyn a ddywedodd:...dechrau wrth ochr Llyn Ogwen, wedyn y 'North Ridge' i fyny Tryfan hefo llunia sydyn ar y 'Cannon' ac Adda ac Efa! Lawr wedyn tuag at Bwlch Tryfan ac yna fyny 'Bristly Ridge' tuag at gopa Glyder Fach, gyda llun bach eto ar y 'Cantilever', yna pasio Castell y Gwynt ac ymlaen i Glyder Fawr, cyn cychwyn lawr am Pen Y Pass lle gafo ni banad bach a bechdan! Ymlaen wedyn am Grib Goch, dipyn o hwyl a sbri yn y gwynt! Yna Carnedd Ugain cyn gorffen ar Gopa'r Wyddfa, lawr llwybr Rhyd Ddu wedyn a peint bach haeddiannol yn y Cwellyn Arms (tafarn druta Gogledd Cymru heb os). Diwrnod da, mae'n rhaid dweud.


Mewn diwrnod? :ofn:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan y nionyn » Iau 28 Chw 2008 1:26 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
y nionyn a ddywedodd:...dechrau wrth ochr Llyn Ogwen, wedyn y 'North Ridge' i fyny Tryfan hefo llunia sydyn ar y 'Cannon' ac Adda ac Efa! Lawr wedyn tuag at Bwlch Tryfan ac yna fyny 'Bristly Ridge' tuag at gopa Glyder Fach, gyda llun bach eto ar y 'Cantilever', yna pasio Castell y Gwynt ac ymlaen i Glyder Fawr, cyn cychwyn lawr am Pen Y Pass lle gafo ni banad bach a bechdan! Ymlaen wedyn am Grib Goch, dipyn o hwyl a sbri yn y gwynt! Yna Carnedd Ugain cyn gorffen ar Gopa'r Wyddfa, lawr llwybr Rhyd Ddu wedyn a peint bach haeddiannol yn y Cwellyn Arms (tafarn druta Gogledd Cymru heb os). Diwrnod da, mae'n rhaid dweud.


Mewn diwrnod? :ofn:


Ia, mewn diwrnod! Oedda ni'n symud reit sydyn a dwi digon ffodus i gal galw hyn yn ran o fy swydd. :D
Fyddai allan eto penwythnos yma, er dwi'm yn siwr iawn be dwi am neud ar hyn o bryd! Di'r tywydd ddim yn gret dydd sad chwaith yn ol y rhagolygon, http://www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mo ... donia.html
Well pacio'r Goretex dwi'n meddwl!!! :lol:
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 28 Chw 2008 7:03 pm

y nionyn a ddywedodd:Di'r tywydd ddim yn gret dydd sad chwaith yn ol y rhagolygon, http://www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mo ... donia.html
Well pacio'r Goretex dwi'n meddwl!!! :lol:


Fel arbennigwr wyt ti'n meddwl mod i'n ddoeth i drio Tryfan ddydd Sadwrn. Pa offer ddyliwn wisgo? A fydd sgidiau cerdded, trowser a chot dal dwr yn ddigon?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan y nionyn » Gwe 29 Chw 2008 9:39 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Fel arbennigwr wyt ti'n meddwl mod i'n ddoeth i drio Tryfan ddydd Sadwrn. Pa offer ddyliwn wisgo? A fydd sgidiau cerdded, trowser a chot dal dwr yn ddigon?


Haha, swni'm yn deud mod i'n arbennigwr de! Dwi'n siwr fyddi di'n iawn, ti weld o gwmpas dy betha. Dwi'n siwr bod y synnwyr cyffredin gen ti, yn wahanol i nifer dwi'n weld ar y mynyddoedd, i weld bore dydd sad os fydd y tywydd yn caniatau. Wedi'r cwbl, fydd Tryfan (fy hoff fynydd i o bell ffordd!!) dal yno y tro nesa!!
Fyddai'n dychryn weithia pan fyddai'n gweld pobl (ddim gymaint pobl lleol) yn cerdded mynyddoedd Eryri, wedi'w gwisgo fel eu bod yn mynd i Tesco i siopa, a tydi damweinia/marwolaethau ddim i weld yn dysgu pobl chwaith.
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 29 Chw 2008 12:27 pm

y nionyn a ddywedodd:Fyddai'n dychryn weithia pan fyddai'n gweld pobl (ddim gymaint pobl lleol) yn cerdded mynyddoedd Eryri, wedi'w gwisgo fel eu bod yn mynd i Tesco i siopa, a tydi damweinia/marwolaethau ddim i weld yn dysgu pobl chwaith.


Yn hollol, pan o ni yn dring fyny i'r Twll Du wythnos diwetha a rhew trwchus o'm cwmpas ro ni'n ei chael hi'n dipyn o strygal a hynny gyda sgidia cerdded addas. Wedyn dyma fi yn dod ar draws teulu o Loegr (hanner tymor ysgol oedd hi ma rhaid) yn gwisgo fel tasw nhw'n mynd i siopa a'r plant yn rhedeg rownd lle yn wyllt er bod rhew tew ar sawl rhan o'r llwybr. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn, dyna man siwr ddaru dwyllo pobl i ddod allan heb ddillad addas.

Newydd fod allan yn prynnu trowsys dal dwr gortex newydd - i lawr o £49 i £20 :D a hefyd fy mhar newydd o Gaiters.

Dwi am fynd i Fwthyn Idwal ac os fydd tywydd yn caniatai Tryfan, os ddim yna maen debyg ai am drek rownd cwm idwal eto ac os nad oes rhew fyny trwy'r twll du.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan y nionyn » Gwe 29 Chw 2008 1:12 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Yn hollol, pan o ni yn dring fyny i'r Twll Du wythnos diwetha a rhew trwchus o'm cwmpas ro ni'n ei chael hi'n dipyn o strygal a hynny gyda sgidia cerdded addas. Wedyn dyma fi yn dod ar draws teulu o Loegr (hanner tymor ysgol oedd hi ma rhaid) yn gwisgo fel tasw nhw'n mynd i siopa a'r plant yn rhedeg rownd lle yn wyllt er bod rhew tew ar sawl rhan o'r llwybr. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn, dyna man siwr ddaru dwyllo pobl i ddod allan heb ddillad addas.


Yn union, fel rhiant, dwi methu coelio bod rhieni yn rhoi eu plant mewn peryg! Dim ond chydig fisoedd yn ol gafo ni ein galw allan i Grib Goch, plentyn 11 oed o lannau Mersi, wedi disgyn i farwolaeth tra allan am dro gyda'i dad a dipyn o'i ffrindia. Tywydd hyll fyd, gwyntog a niwlog, yn sicr ddim yn ddiwrnod i fod ar Grib Goch mewn 'trainers'.
Yr Agwedd Yw Fy Mugail
Rhithffurf defnyddiwr
y nionyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Gwe 26 Awst 2005 2:30 pm
Lleoliad: Gwaelod y Fenai

Re: Cerdded/Heicio yn Eryri

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 29 Chw 2008 1:40 pm

y nionyn a ddywedodd:Yn union, fel rhiant, dwi methu coelio bod rhieni yn rhoi eu plant mewn peryg!


Cofia di, dwi'n meddwl fod peth bai ar y diwydiant 'twristiaeth' am boblogeiddio ardaloedd/llwybrau/mynyddoedd sydd mewn gwirionedd angen aros yn arbennigol ac nid yn boblogaidd. Er enghraifft roedd y dringiad fyny llethrau Cwm Idwal, trwy'r Twll Du ac allan i Lyn y Cwn yn daith oedd mewn llyfr '50 Walks in Snowdonia' - y llyfr yna oedd y teulu welesi yn ei ddilyn ac fel maen digwydd roedd copi gyda mi adre ac nid oedd unrhyw son yn y llyfr bod y llwybr yn beryglus yn ystod y Gaeaf - mi roedd disclamer cyffredinol ar ddiwedd y llyfr ond dylai llyfrau o'r fath roi rhybudd wrth pob taith mai dim ond yn ystod misoedd yr haf ar ddiwrnod clir y dylid mynd a teulu fyny etc....
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron