Tudalen 1 o 1

Brwsel a'r Cyffiniau

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 9:02 pm
gan Leusa
'Dwi'n meddwl mynd yno i wyl gerddoriaeth Werchter (ryw 20 milltir-ish o Frwsel) ac yn meddwl tybed lle fyddai'r lle neisha i aros - Brwsel neu Leuven?
O ran pethau i'w gweld a pha mor ££rad ydi stwff (bwyd a llety yn benodol).

Tybed a oes syniad gan unrhyw un sydd wedi ymweld ag un neu'r ddau o'r llefydd o'r blaen?

Diolch bobol.

Re: Brwsel a'r Cyffiniau

PostioPostiwyd: Mer 19 Maw 2008 11:00 pm
gan Seonaidh/Sioni
Yn anffodus, rydw i heb fod ym Mrwsel ers talm. Ond darfu imi aros am y nos rhywle i'r de o Frwsel 2-3 blynedd yn ol (wedi anghofio enw'r lle, yng nghanol yr Ardennes os cofia i'n iawn). Doedd y prisiau ddim yn rhy ofnadwy - yn rhatach na Pharis, e.e. Mae'n debyg y bydd Brwsel ei hun braidd yn gostus, gan mai prifddinas yr UE ydy hi (yn ogystal a Gwlad Belg, h.y.). Rydw i wedi bod yn Ieper hefyd - tref atyniadol. Swn i'n dewis Leuven o flaen Brwsel - mae trafnidiaeth yn rhesymol iawn ar y Cyfandir, felly byddai'n bosib i aros yn Leuven ac ymweld a Brwsel.